Diolch i Talking Hands, mae plant a phobol ifanc wedi cael cyfle i fynd ar daith dywys drwy gyfrwng iaith arwyddion yn Stadiwm Swansea.com, cartref Clwb Pêl-droed Abertawe.

Roedd Joe Allen yno i gyfarfod â nhw, ac yntau â brawd sy’n fyddar.

Mae Talking Hands yn helpu plant a phobol ifanc Fyddar a’u teuluoedd yn ardal Abertawe, gan gynnig cefnogaeth ac arweiniad ar addysg a gweithgareddau hamdden.

Yn ystod y daith, cawson nhw gyfle i fynd i mewn i’r ystafelloedd newid a chyfleusterau eraill y stadiwm.

“Mae fy mrawd Harry yn Fyddar ac mae’n arwyddo, felly mae hyn yn agos ataf fi ar lefel bersonol,” meddai.

“Roedd hi’n wych cyfarfod â nhw.

“Maen nhw’n grŵp gwych o blant ac maen nhw i’w gweld wedi cyffroi i fod yma, gwneud y daith a gweld popeth yn y stadiwm.

“Mae’n wych fod gan y clwb fenter fel hon.

“Gallwch chi weld pa mor bwysig yw hi iddyn nhw, a bod ganddyn nhw’r cyfle i gael eu cynnwys yn y stadiwm a’r gemau.

“Cynhwysiant yw popeth, ac mae unrhyw beth allwn ni ei wneud i gynnig a helpu yn wych.”

‘Hollol anhygoel’

“Roedd hi’n hyfryd gweld Joe,” meddai Talina Jones, sy’n gweithio i Talking Hands ac oedd wedi arwyddo yn ystod y daith.

“Mae ganddo fe gysylltiad â’r gymuned Fyddar, felly roedd hi’n braf ei fod e’n gallu rhoi rhywbeth yn ôl.

“Roedd y plant – a’r oedolion – yn llawn parchedig ofn.

“Y daith hon oedd y tro cyntaf i rai ohonyn nhw gamu i mewn i’r stadiwm bêl-droed, felly mae’r ffaith fod gan Abertawe gysylltiadau â Talking Hands a’n bod ni wedi gallu sefydlu hyn yn hollol anhygoel.

“Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at ddod i’r gêm yn erbyn Bristol City, yn enwedig gan fod y plant bellach yn gwybod fod yr Elyrch yn cofleidio’u diwylliant, eu hiaith a’r gymuned.”