Bydd Jonny Clayton a Gerwyn Price yn herio’i gilydd yn yr Uwch Gynghrair Dartiau yn Nottingham heno (nos Iau, Mawrth 16).

Bydd yr enillydd yn wynebu Dmitri van den Bergh neu Nathan Aspinall yn y rownd gyn-derfynol.

Collodd y ddau Gymro yn rownd yr wyth olaf yn Lerpwl yr wythnos ddiwethaf, gyda Michael van Gerwen yn curo Clayton a Peter Wright yn trechu Price.

Dyma’r tro cyntaf i’r ddau Gymro herio’i gilydd y tymor hwn.

Roedd Jonny Clayton ar frig y gynghrair cyn y rowndiau olaf y tymor diwethaf, a hynny ar ôl ennill pedair noson.

Ond y tro hwn, mae Gerwyn Price un pwynt ar y blaen i’w gyd-Gymro yn y tabl, wrth iddo yntau lygadu’r gemau ail gyfle i gymhwyso ar gyfer y rowndiau olaf am y tro cyntaf mewn pum ymddangosiad.