Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi cyhoeddi chwe newid yn ei dîm i herio Ffrainc yng ngêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (Mawrth 18, 2.45yp).

Bydd Taulupe Faletau yn ennill ei ganfed cap yn y rheng ôl, wrth i Gymru geisio gorffen y twrnament yn bositif ar ôl ymgyrch siomedig, gyda dim ond un fuddugoliaeth a honno’n dod yn erbyn yr Eidal.

Daeth ei gap cyntaf yn erbyn y Barbariaid fis Mehefin 2011, a’i hanner canfed cap yn erbyn Ffiji yng Nghwpan y Byd yn 2015.

Bydd y prop Dillon Lewis hefyd yn ennill ei hanner canfed cap pe bai’n dod oddi ar y fainc.

Mae George North a Nick Tompkins wedi’u dewis yn y canol, gyda Louis Rees-Zammit yn dechrau yn safle’r cefnwr am y trydydd tro.

Ar yr esgyll fydd Rio Dyer a Josh Adams, tra bod Dan Biggar yn dychwelyd yn safle’r maswr yn dilyn anaf i gadw cwmni i’r mewnwr Rhys Webb.

Mae dau newid ymhlith y blaenwyr, gydag Alun Wyn Jones yn dechrau yn yr ail reng, ac Aaron Wainwright yn dechrau am y tro cyntaf eleni yn y rheng ôl, gyda Jac Morgan allan ag anaf i’w ffêr.

Ar y fainc mae Bradley Roberts, Gareth Thomas, Dafydd Jenkins, Tommy Reffell, Leigh Halfpenny, Tomos Williams ac Owen Williams.

‘Cam i’r cyfeiriad cywir’

Yn ôl Warren Gatland, roedd y fuddugoliaeth dros yr Eidal yn “gam i’r cyfeiriad cywir” ac yn gyfle i “fagu ychydig o hyder”, ond mae’n cyfaddef fod “llawer i ni weithio arno fe o hyd”.

“Rydyn ni wedi gweithio’n galed ar ambell beth yn nhermau tacluso rhai o’r camgymeriadau amddiffynnol rydyn ni wedi’u gwneud, a chael y pethau hynny’n iawn,” meddai.

“Rydyn ni’n dal i weithio’n galed ar ein hymosod.”

Mae Warren Gatland hefyd wedi talu teyrnged i Taulupe Faletau, sydd wedi bod yn “was arbennig” i rygbi yng Nghymru, meddai.

“Er ei fod e’n closio at 100 o gapiau, mae’n dal i fod yn eithaf tawe, ond mae’n uchel iawn ei barch ymhlith y chwaraewyr am yr hyn mae e wedi’i gyflawni,” meddai.

“Dw i’n cofio’r dyddiau cynnar pan oedd e jyst yn chwaraewr cyson, ac fe ddaeth e’n chwarae o safon fyd-eang yn nhermau ei berfformiadau.

“Mae llawer o bethau dydy pobol ddim yn eu gweld yn nhermau ei allu i ddarllen y gêm – bydd e’n rhedeg llinellau cynorthwyol dydy pobol ddim yn eu gweld.

“Fe welwch chi hynny wrth i chi fynd yn ôl drwy’r fideos ac fe fu adegau pan mae e wedi bod ar ddiwedd pàs ac wedi sgorio ceisiau.

“Fe welson ni hynny yr wythnos ddiwethaf pan dorrodd Rhys Webb yn glir, a Toby yn sgorio cais.

“Mae cael 100 o gapiau’n gydnabyddiaeth arbennig am yr hyn mae e wedi’i gyflawni yn y gêm.

“Mae’n wych iddo fe a’i deulu, a gobeithio y gallwn ni fynd allan yno a rhoi perfformiad da iawn iddo fe a rhywbeth i’w gofio.”

Tîm Cymru:

15. L Rees-Zammit, 14. J Adams, 13. G North, 12. N Tompkins, 11. R Dyer, 10. D Biggar, 9. R Webb; 1. W Jones, 2. K Owens (capten), 3. T Francis, 4. A Beard, 5. A W Jones, 6. A Wainwright, 7. J Tipuric, 8. T Faletau.

Eilyddion:

16. B Roberts, 17. G Thomas, 18. D Lewis, 19. D Jenkins, 20. T Reffell, 21. T Williams, 22. O Williams, 23. L Halfpenny