Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi dewis pedwar chwaraewr heb gap yn y garfan i herio Croatia a Latfia yng ngemau rhagbrofol Ewro 2024.
Bydd Cymru’n herio Croatia oddi cartref ddydd Sadwrn, Mawrth 25, a Latfia gartref ar nos Fawrth, Mawrth 28.
Dyma’r garfan gyntaf i’w chyhoeddi ers ymddeoliadau Gareth Bale, Joe Allen, Chris Gunter a Jonny Williams dros yr wythnosau diwethaf.
Aaron Ramsey yw’r capten newydd, gan olynu Gareth Bale.
Y rhai yn y garfan heb gap yw Luke Harris, Jordan James, Ollie Cooper a Nathan Broadhead, tra bod Tom Bradshaw yn dychwelyd am y tro cyntaf ers pum mlynedd ar ôl cael ei enwi’n Chwaraewr y Mis y Bencampwriaeth ym mis Chwefror.
Rhain hefyd fydd gemau cynta’r hyfforddwyr newydd, Eric Ramsay a Nick Davies, gafodd eu penodi i dîm cynorthwyol Rob Page fis diwethaf.
Hefyd yng ngrŵp Cymru ar gyfer y gemau rhagbrofol mae Twrci ac Armenia, wrth iddyn nhw geisio cymhwyso ar gyfer eu trydedd Ewros yn olynol, a’r rheiny yn yr Almaen y flwyddyn nesaf.
Carfan Cymru
W Hennessey, D Ward, A Davies, B Davies, N Williams, B Cabango, O Cooper, T Lockyer, J Rodon, C Mepham, E Ampadu, C Roberts, S Thomas, J James, N Broadhead, W Burns, A Ramsey, J Morrell, H Wilson, D James, K Moore, L Harris, B Johnson, T Bradshaw.