Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi mai Mark Alleyne yw eu prif hyfforddwr newydd ar gyfer gemau undydd.

Bydd yn gyfrifol am y tîm yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast a’r gystadleuaeth 50 pelawd.

Bydd yn rhannu’r swydd gyda’r prif hyfforddwr arall, Matthew Maynard, fydd yn canolbwyntio ar gemau’r Bencampwriaeth, gyda David Harrison yn dychwelyd i fod yn is-hyfforddwr ar ôl arwain y tîm yn y Vitality Blast.

Yn ystod ei yrfa ar y cae, roedd Mark Alleyne, 54, yn chwaraewr amryddawn ac yn gapten ar Swydd Gaerloyw rhwng 1986 a 2005, ac fe gynrychiolodd e Loegr mewn deg gêm undydd hefyd.

Fe fu’n brif hyfforddwr Swydd Gaerloyw cyn cael ei benodi’n brif hyfforddwr yr MCC yn 2009, ac yna’n is-hyfforddwr tîm undydd Lloegr, Llewod Lloegr a’r Tân Cymreig yn y Can Pelen.

Bydd e wrth y llyw am y tro cyntaf yn erbyn ei hen sir yn y Vitality Blast.

‘Teithio dros y bont’

“Dw i wedi edrych ymlaen erioed at deithio dros y Bont i grochan criced Gerddi Sophia, neu wyliau mwy hamddenol yng ngogledd Cymru – a dw i wedi gwneud y ddau beth ar sawl achlysur,” meddai.

“Ond fy nhaith nesaf fel prif hyfforddwr pêl wen Morgannwg fydd yr un y bydda i wedi edrych ymlaen ati fwyaf.

“Mae hollti’r swyddi domestig mewn ffordd unigryw – sydd fel arfer yn cael ei gadw ar gyfer timau rhyngwladol – yn dweud wrthyf fod y clwb o ddifri am gystadlu ar bob llwyfan.

“Dyma’r union amgylchfyd dw i wrth fy modd yn cael bod yn rhan ohono, ac alla i ddim aros i ymuno â Matt Maynard, fydd yn arwain yr her yn y Bencampwriaeth.

“Mae gweithio gyda thîm hyfforddi’r bêl wen gyda Lloegr yn 2022 wedi rhoi’r symbyliad i fi osod fy stamp yn ddomestig.

“Dw i yma’n ddigamsyniol i wneud hynny.”

‘Llu o brofiad a phersbectif newydd’

“Rydyn ni wrth ein boddau o gael dod â Mark i mewn fel ein prif hyfforddwr pêl wen,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Daw Mark â llu o brofiad i’n timau pêl wen, a phersbectif ffres ar sut allwn ni symud yn ein blaenau yn y ddau fformat.

“Mae’n gyfnod cyffrous i’r clwb, ac rydym yn edrych ymlaen wrth i Mark osod ei stamp ar ein dull o chwarae.

“Rydyn ni eisiau cystadlu ar bob llwyfan, a gyda’r tîm hyfforddi newydd hwn, dw i’n hynod optimistaidd ynghylch y dyfodol i Forgannwg mewn criced pêl goch a phêl wen.”