Mae ymgyrch ragbrofol Ewro 2024 yn ddechrau cyfnod newydd yn hanes pêl-droed Cymru, yn ôl Chris Mepham.
Bydd yr ymgyrch yn dechrau oddi cartref yng Nghroatia nos Sadwrn (Mawrth 25), cyn i dîm Rob Page groesawu Latfia i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth (Mawrth 28).
Ond bydd yn rhaid iddyn nhw chwarae heb eu cyn-gapten Gareth Bale a’r chwaraewr canol cae profiadol Joe Allen, ar ôl i’r ddau ymddeol yn dilyn Cwpan y Byd siomedig yn Qatar.
Mae Chris Gunter hefyd wedi ymddeol, ac mae Ben Davies a Wayne Hennessey wedi tynnu’n ôl o’r garfan gydag anafiadau.
Bydd colli cymaint o brofiad – peth ohono’n barhaol a pheth dros dro – yn ergyd i’r garfan, ond mae hefyd yn cynnig cyfle newydd i rai o’r chwaraewyr ar y cyrion, yn ôl amddiffynnwr canol Cymru.
“Newydd gwrdd ar gyfer y gwersyll yma ydyn ni, ac mae pobol fel Ben Davies yn tynnu’n ôl o’r gwersyll yn newid pethau rywfaint,” meddai Chris Mepham wrth gyfarfod â’r wasg yng Ngwesty’r Vale ym Mro Morgannwg.
“Hoffwn i feddwl y galla i fod yn un o’r chwaraewyr rheiny all fod yn arweinydd ar y cae, ac y galla i gyflwyno ambell syniad nawr. Ond mae hynny i fyny i’r rheolwr.”
Newid egwyddorion?
Dywed Chris Mepham fod y garfan wedi cael cyfarfod adborth yn dilyn Cwpan y Byd, ar ôl i’r tîm fethu â chymhwyso o’u grŵp yn erbyn Lloegr, yr Unol Daleithiau ac Iran.
Ond gyda’r hen bennau wedi mynd, sut mae symud ymlaen o’r profiad hwnnw i’r cyfnod newydd hwn?
“Gyda thipyn o’r bois wedi mynd nawr, roedden ni eisiau siarad am ein hegwyddorion o ran sut mae pethau, y ffordd rydyn ni eisiau chwarae, y tîm rydyn ni eisiau bod.
“Oherwydd, os ydyn ni’n onest, doedden ni ddim wedi rhoi ein dwylo i fyny’n llawn yn Qatar.
“Dw i ddim yn meddwl bod rheswm penodol am hynny.
“Wrth gwrs wnaethon ni drio’n gorau, mae gyda ni grŵp mor dda, set mor onest o fois fel y byddai pawb wedi bod eisiau rhoi eu dwylo i fyny.
“Ond am ba bynnag reswm, wnaeth e ddim gweithio allan felly, a dw i’n meddwl ein bod ni eisiau eistedd fel grŵp, cael adlewyrchu a gweld sut allwn ni wella wrth symud ymlaen, ac fel bob tro mae sawl ffordd y gallwn ni wneud hynny.
“Dw i’n meddwl y byddwn ni’n hollol iawn ac mewn lle da wrth symud ymlaen.
“Aethon ni’n ôl rywfaint at y pethau sylfaenol yn nhermau’r tîm rydyn ni eisiau bod, y tîm trefnus, tynn hwnnw, y tîm trefnus fu Cymru ers cynifer o flynyddoedd, ac mae’n debyg mai gwrthymosod yw un o’n cryfderau mawr ni wrth chwarae yn erbyn timau mawr, a bod mor beryglus ag y gallwn ni wrth wrthymosod.
“Dw i’n meddwl bod yr hyfforddiant rydyn ni wedi’i wneud wedi canolbwyntio ar geisio gwella hynny.
“Mae gyda ni dipyn o gyflymdra wrth wrthymosod, ac mae gyda ni amddiffynwyr yn y tîm sy’n gallu bod yn dynn ac amddiffyn yn dda a rhoi eu cyrff yn y fantol.
“Unwaith fyddwn ni’n ennill y bêl, bod yn ddeinamig a dw i’n meddwl mai dyna’r tîm rydyn ni eisiau bod, a sicrhau bod hynny’n ran o’n hunaniaeth ni wrth symud ymlaen.”
Oedd rhaid cael pennod newydd?
Yn sgil ymddeoliadau’r hoelion wyth, mae Chris Mepham bellach ymhlith chwaraewyr mwyaf profiadol y garfan, ochr yn ochr ag Aaron Ramsey.
Ond mae’r garfan hefyd yn cynnwys rhai o sêr posib y dyfodol, gan gynnwys Brennan Johnson, Neco Williams, a nifer o chwaraewyr sydd wedi hen sefydlu eu hunain ac sy’n barod i gamu i fyny i fod y Gareth Bale neu Joe Allen nesaf.
Gyda Chris Mepham yn teimlo ein bod ni ar drothwy pennod newydd yn hanes y tîm cenedlaethol, oedd rhaid torri’n glir o’r gorffennol a dim ond edrych tua’r dyfodol?
“Dw i ddim yn meddwl, o reidrwydd,” meddai.
“Does dim angen cyfnod pan fyddwch chi heb rywun fel Gareth Bale yn eich tîm.
“Gallwch chi bob amser gael rhywun o’i safon e, gallwch chi wastad gael rhywun o safon Joe Allen, Chris Gunter, Jonny Williams…
“Maen nhw i gyd yn dod â rhywbeth gwahanol i’r tîm, a dw i ddim yn meddwl y gallwch chi fyth gael digon ohonyn nhw yn y tîm.
“Ond ar yr un pryd, mae’r penderfyniad wedi cael ei wneud ac fel unrhyw beth, rhaid i chi esblygu ac mae’n rhaid i chi wella.
“Bydd yn rhaid i ni wneud hebddyn nhw.
“Efallai bod hynny’n rhoi ychydig mwy o bwyslais ar chwaraewyr fel fi, a dw i fwy na thebyg yn un o’r bois mwyaf profiadol yn y tîm erbyn hyn.
“Yn hytrach na’r bois hŷn yn gyrru’r peth, rhaid i rywun newydd yrru’r sesiynau ymarfer a bod yn llais yn yr ystafell newid ac ar ddiwrnod y gêm ac ati.
“Felly dw i’n credu ei fod e’n gyfnod newydd, ond ar yr un pryd mae’n rhoi cyfleoedd i bobol sydd efallai wedi bod yn y cysgodion ychydig bach cyn hyn i godi’u llaw a dangos i’r giaffar pam ddylen nhw gael eu dewis.
“Dw i’n credu bod hynny’n beth iach ar gyfer cydbwysedd y tîm.”