Mae Ollie Cooper yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at ddilyn yn ôl troed chwaraewr canol cae arall mae’n ei adnabod yn dda yn Abertawe.
Mae’r chwaraewr canol cae ymosodol wedi’i alw i garfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2024 yn erbyn Croatia nos Sadwrn (Mawrth 25) a Latfia dridiau’n ddiweddarach (nos Fawrth, Mawrth 28).
Ond gyda Joe Allen wedi ymddeol, fydd un o freuddwydion Ollie Cooper ddim bellach yn dod yn wir, ond mae’n dweud y byddai camu i’r cae yng nghrys coch Cymru’n “eiliad enfawr” iddo fe beth bynnag.
“Mae’n rywbeth dw i wedi bod yn breuddwydio amdano ers amser hir,” meddai.
“Mae cael yr alwad o’r diwedd i fod yn rhan o’r garfan yn destun cyffro mawr.
“Dw i mor falch o gael bod yma.”
Canolbwyntio ar Abertawe, ond byw mewn gobaith
Teithiodd y chwaraewr 23 oed gyda charfan Rob Page i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd ond nawr mae’n dweud ei fod e’n canolbwyntio ar chwarae i’r Elyrch yn y lle cyntaf, ac yna i Gymru pe bai’n ddigon ffodus i gael ei ddewis yn y tîm.
“Rydych chi bob amser yn gobeithio y gallwch chi fod yn rhan ohoni, ond dydych chi byth eisiau rhedeg i ffwrdd â’r peth,” meddai.
“Fy mhrif ffocws ar ôl Cwpan y Byd yw chwarae i Abertawe a pharhau i wneud hynny.
“Unwaith ges i’r alwad [i garfan Cymru], roedd hi’n anhygoel ac felly dw i’n falch o gael bod yma nawr.
“Pe baech chi wedi gofyn i fi ar ddechrau’r tymor a fyddwn i yn y sefyllfa yma nawr gyda Chymru, ar ôl chwarae faint bynnag o gemau i Abertawe, byddwn i wedi dweud, ‘Iawn, annhebygol iawn, ond dydych chi byth yn gwybod’.
“Mae wedi bod yn dymor anhygoel i fi’n bersonol, yn torri trwodd i’r tîm, chwarae a dw i jyst yn mwynhau’r hyn dw i’n ei wneud.
“Dw i’n mwynhau bod ar y cae, dw i’n mwynhau chwarae i Abertawe.
“O gael bod i ffwrdd ar fenthyg y tymor diwethaf, roeddwn i’n dod i mewn i ymarfer cyn dechrau’r tymor gyda’r meddylfryd fy mod i eisiau aros yn Abertawe.
“Roeddwn i eisiau gwneud beth bynnag allwn i cyn dechrau’r tymor i ddangos beth oeddwn i’n gallu ei wneud.
“Llwyddais i i gael mewn i’r garfan ar y fainc.
“Cymerodd hi sbel cyn i fi lwyddo i gael ar y cae, ond [y nod oedd] chwarae i Abertawe, cael cynifer o funudau ag y gallwn i, cael cynifer o goliau ag y gallwn i a chreu cynifer [o goliau] ag y gallwn i.”
Troeon trwstan
Ond dydy pethau ddim wedi bod yn hawdd i Ollie Cooper chwaith, ar ôl iddo orfod gwella o anaf i ddychwelyd i’r cae i Abertawe.
Daeth e i’r cae ar gyfer ugain munud ola’r fuddugoliaeth o 2-0 dros Bristol City y penwythnos diwethaf, ac mae’n mynnu ei fod e wedi gwella’n llwyr o’r “ergyd fach”.
“Roeddwn i eisiau sicrhau fy mod i’n iawn,” meddai.
“Fe wnes i hynny, felly roeddwn i wedi gallu chwarae yn erbyn Bristol City a dod i ffwrdd yma.
“Ond dwi’n 100% nawr.
“Chwaraeon ni’r gêm yn erbyn Middlesbrough a des i ymlaen am hanner awr, ac yn y gêm nesaf dechreuais i yn erbyn Stoke.
“Ar ôl hynny, arhosais i yn y tîm, chwarae llawer o funudau, ond dyna’r gêm fwy na thebyg lle gwnaeth [Russell Martin, rheolwr Abertawe] adael i fi fynd ar y cae yn llwyr a dangos i bobol beth alla i ei wneud.”
Mae’n dweud bod cael bod ar y daith i Qatar gyda charfan Cymru wedi hwyluso’r broses o gael bod yn rhan llawn o’r garfan y tro hwn.
“Roedd e’n brofiad anhygoel cael mynd yno, cwrdd â’r chwaraewyr, ymarfer gyda phawb heb bwysau’r gemau, ac fe wnaeth fy ngalluogi i fod yn rhan o’r peth heb y pwysau hynny.
“Fe wnaeth e jyst galluogi’r profiad yma i fod lawer yn haws.”
Er mai chwaraewr wrth gefn oedd e ar gyfer Cwpan y Byd, mae’n dweud ei fod e’n teimlo’n rhan o’r garfan serch hynny.
“Gyda’r wefr o amgylch y grŵp ac ymarfer a bod yn y gwesty, roedd pawb jyst mor falch o gael bod yno’n cynrychioli eu gwlad,” meddai.
“Er nad oeddwn i ar y cae, rydych chi’n dal i ymarfer gyda nhw ac rydych chi’n dal i wneud popeth allwch chi i’w hysgogi nhw ar gyfer y gemau.
“Ar yr un pryd, dw i yno’n gwylio fy ngwlad yn chwarae yng Nghwpan y Byd, felly roeddwn i’n teimlo fy mod i’n dal yn rhan ohono fe.
“I bob pwrpas, wnaethon ni bopeth wnaethon nhw, ond roedden ni’n eistedd yn yr eisteddle gyda’r system air con rhewllyd!”
Esgidiau mawr i’w llenwi
Er eu bod nhw’n chwaraewyr lled wahanol i’w gilydd, cyfrifoldeb pennaf Ollie Cooper yn y garfan pe bai’n cyrraedd y cae yw llenwi esgidiau nid ansylweddol Joe Allen.
Ac mae’n dweud fod ei arwr wedi bod yn gefnogol iawn iddo, i Abertawe ac i Gymru.
“Dw i wedi siarad tipyn â fe’n bersonol yn Abertawe, ac roeddwn i’n dweud mai fy mreuddwyd erioed oedd cael chwarae gyda fe,” meddai Ollie Cooper.
“Llwyddais i i wneud hynny yn Abertawe, a’r cam nesaf wedyn oedd cael y cyfle i wneud hynny gyda Chymru.
“Yn anffodus, dydy hynny ddim wedi digwydd ond gobeithio y galla i ddilyn yn ôl ei droed a chael gyrfa fel mae e wedi’i chael ar lefel clybiau ac yn rhyngwladol.”
Mae’n dweud bod y Cymro Cymraeg o Sir Benfro wedi cael dylanwad “enfawr” arno ar hyd y blynyddoedd.
“Dw i wedi ei wylio fe’n chwarae dros y blynyddoedd i nifer o wahanol glybiau,” meddai.
“Ac yntau wedi dod yn ôl [i Abertawe], dw i’n cofio’r gêm gyntaf i fi ei chwarae gyda fe, ac roeddwn i jyst mewn parchedig ofn wrth ymarfer bob dydd, felly dw i jyst mor lwcus o gael bod gyda fe.
“Mae e bob amser yn rywun mae pobol yn mynd ato fe i siarad ag e.
“Mae’n rywun dw i’n siarad â fe ac yn gofyn iddo fe am gyngor.
“Mae e bob amser yno i roi ychydig bach o gyngor i chi, yn enwedig cyn ac ar ôl gemau.
“Mae e wedi bod yn enfawr, yn enwedig y tymor hwn, fy nhymor yn torri drwodd gydag Abertawe.
“Mae e’n gwneud i’r cyfan edrych yn ddiymdrech, on’d yw e?
“Gyda’i waith oddi ar y bêl, ei barodrwydd i daclo…
“Mae e tua’r un taldra â fi, ac os galla i ei weld e’n gwneud rhywbeth, dyna dw i eisiau ei wneud hefyd.”