Bydd Cyfarfod Cyffredinol Arbennig Undeb Rygbi Cymru yn cael ei gynnal y penwythnos hwn, ac mae un o bwyllgorau’r Senedd yn annog clybiau rygbi i bleidleisio dros ddiwygio, a moderneiddio trefniadau llywodraethu’r Undeb.

Caiff y cyfarfod ei gynnal wedi i honiadau o ymddygiad hiliol, rhywiaethol a homoffobig yn y corff ddod i’r amlwg ddechrau’r flwyddyn.

Mae’r cynlluniau sy’n cael eu cynnig gan Undeb Rygbi Cymru (URC) yn cynnwys cael naill ai prif weithredwr neu gadeirydd benywaidd ar eu bwrdd, ynghyd â chael o leiaf pum dynes ar y bwrdd rheoli – sydd â deuddeg aelod.

Yn ystod rhaglen ddogfen ar y BBC, dywedodd Charlotte Wathan, cyn-bennaeth rygbi merched Cymru, ei bod hi wedi ystyried hunanladdiad ar ôl i gydweithiwr gwrywaidd ddweud ei fod am ei “threisio” o flaen eraill mewn swyddfa.

Daeth i’r amlwg hefyd fod Amanda Blanc, cadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru rhwng 2019 a 2021, wedi rhybuddio Undeb Rygbi Cymru bod problem yn bodoli, ond nad oedd camau wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r pryderon hyn.

Mae Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd wedi clywed tystiolaeth gan Undeb Rygbi Cymru, Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru ar y mater, a byddan nhw’n cyflwyno adroddiad ar eu canfyddiadau maes o law.

‘Cyfle olaf i foderneiddio’

Dywedodd y Pwyllgor mewn datganiad: “Roedd y rhaglen ddogfen BBC Wales Investigates am gasineb at fenywod, homoffobia a hiliaeth yn Undeb Rygbi Cymru yn ofidus ac yn anodd ei gwylio.

“Mae’n druenus mai’r unig ffordd y gallai’r unigolion dan sylw gael eu cymryd o ddifrif gan URC oedd drwy ildio eu hanhysbysrwydd a chodi eu pryderon yn gyhoeddus.

“Diolchwn iddynt am eu dewrder, ac i’r newyddiadurwyr am dynnu sylw at hyn.

“Y penwythnos hwn, bydd URC yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Arbennig i ystyried cynigion i foderneiddio ei threfniadau llywodraethu ac i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn ei strwythurau.

“Mae cynigion tebyg wedi’u hystyried o’r blaen ond nid oeddent yn cyrraedd y trothwy o 75% o bleidleisiau sy’n ofynnol.

“Mae hwn yn gyfle olaf i Undeb Rygbi Cymru foderneiddio.

“Os gwrthodir y cynigion hyn, nid oes gan yr Undeb unman ar ôl i fynd.

“Bu’n beth trist a niweidiol gweld sefydliad mor arwyddocaol ym mywyd cyhoeddus Cymru yn cael ei ddwyn mor isel.

“Rhaid i Undeb Rygbi Cymru nawr ddangos i bobol Cymru ei bod am fod yn sefydliad modern a chynhwysol.

“Rhaid iddi fachu ar y cyfle cyn bod y difrod sydd wedi’i wneud yn anadferadwy.”