Dydy Tom Bradshaw ddim wedi chwarae dros Gymru ers pum mlynedd union – y diwrnod pan ddaeth Gareth Bale yn brif sgoriwr goliau Cymru erioed.

Bryd hynny, roedd tîm Ryan Giggs yn cystadlu yng Nghwpan Tsieina, ac newydd roi cweir i’r tîm cartref o 6-0 a’r seren fyd-enwog Bale yn sgorio hatric o goliau i dorri’r record.

Dydy Bradshaw, sydd bellach yn 30 oed, erioed wedi cystadlu mewn twrnament gyda Chymru ar ôl methu haf euraid yr Ewros yn Ffrainc yn 2016 o ganlyniad i anaf er iddo fe gael ei ddewis yn y garfan gychwynnol gafodd ei thorri i lawr yn y pen draw.

Yr un oedd yr hanes ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar ddiwedd y llynedd, ond ar ôl ennill Chwaraewr y Mis y Bencampwriaeth wedi iddo fe sgorio chwe gôl mewn chwe gêm, mae’r ymosodwr yn ysu i fwrw iddi unwaith eto.

Yn sgil ymddeoliad Gareth Bale, mae yna ofod ymhlith y blaenwyr ac mae perfformiadau diweddar Bradshaw yn siŵr o fod wedi dal sylw Rob Page wrth iddo baratoi ar gyfer bywyd heb Bale a Joe Allen.

Mae Chris Gunter a Jonny Williams hefyd wedi ymddeol, ac mae Ben Davies a Wayne Hennessey wedi tynnu’n ôl oherwydd anafiadau.

Os yw hon yn bennod newydd yn hanes Cymru, felly, mae Tom Bradshaw yn gobeithio chwarae rhan flaenllaw ynddi.

“Mae’n ddechreuad newydd, ac mae’n teimlo’n gyffrous i fi,” meddai wrth y wasg yng ngwesty’r Vale ym Mro Morgannwg.

“Mae’n amser hir ers i fi fod ynghlwm ddiwethaf, ac ro’n i’n chwaraewr a pherson gwahanol.

“Doeddwn i ddim yn dad bryd hynny, a nawr mae gen i ferch bedair oed.

“Mae llawer o bethau wedi newid ers i fi fod ynghlwm ddiwethaf, a dw i’n teimlo fy mod i wedi esblygu fel chwaraewr ac fel person.”

Ewro 2016 a Chwpan y Byd

Os yw Tom Bradshaw wedi esblygu, gellid dweud yr un fath am bêl-droed Cymru dros y blynyddoedd diwethaf hefyd.

Ers 2016, eu twrnament mawr cyntaf ers Cwpan y Byd 1958, maen nhw hefyd wedi chwarae yn Ewro 2020 a Chwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Ond bu’n rhaid i Bradshaw wylio o bell.

“Wnes i wylio o adref yn bennaf,” meddai am y profiad o wylio’r tîm cenedlaethol yn Qatar.

“Byddwn i wedi gwneud yn dda i gyrraedd y dafarn!

“Roedd yn ddechreuad gwych gyda’r gêm gyfartal yn erbyn yr Unol Daleithiau, ac fel cefnogwr roedd hi’n wych gweld Cymru’n cystadlu ar y llwyfan mwyaf un.

“Mae’n debyg nad oedd y grŵp wedi cyflawni’r hyn roedden nhw eisiau ei gyflawni allan yno, ond y peth da am bêl-droed yw eich bod chi’n cael ail gyfle.”

Ac mae Tom Bradshaw yn sicr wedi cael ail gyfle.

“Mae’n un anodd,” meddai wrth gael ei holi a oedd e’n credu bod ei yrfa ryngwladol ar ben.

“Dw i’n meddwl eich bod chi bob amser yn meddwl, os ydych chi’n chwarae’n dda ac yn ddigon cyson, fod yna gyfle o hyd.

“Mae’n rywbeth oedd, nid ym mlaen fy meddwl bob blwyddyn achos bod sbel wedi mynd heibio, ond roedd e’n rywbeth roeddwn i eisiau ei gyflawni, cael dychwelyd i garfan Cymru a cheisio creu argraff dros fy ngwlad.

“Roeddwn i eisiau chwarae’n gyson i Millwall, sgorio goliau a rhoi fy hun mewn sefyllfa i gael fy newis, o bosib.

“A phan ges i’r alwad, roeddwn i ar ben fy nigon.”

Oedd colli allan ar Ewro 2016, felly, yn symbyliad iddo wrth geisio dychwelyd i garfan Cymru?

“Byddai mynd i dwrnament mawr yn anhygoel, jyst i’w brofi, profi’r wefr, profi’r gemau,” meddai wrth edrych ymlaen at yr ymgyrch sy’n dechrau gyda gemau yng Nghroatia nos Sadwrn (Mawrth 25) a gartref yn erbyn Latfia dridiau’n ddiweddarach.

“Roedd 2016 yn rywbeth dw i’n edrych yn ôl arni, nid yn ei ddifaru oherwydd allwch chi ddim gwneud ryw lawer am anafiadau yn y byd pêl-droed, ond roeddwn i mor agos at gyrraedd y garfan gychwynnol ond ges i anaf i groth y goes.

“Ond eu gweld nhw’n mynd ymlaen i gyflawni fel wnaethon nhw, es i allan i America a gwneud yn siŵr fy mod i’n gwylio’r gemau, er bod y gwahaniaeth amser yn anodd fe wnes i’n siŵr fy mod i’n gwylio pob gêm, ac roedd hi’n anhygoel i’w gwylio.

“I gyrraedd mor bell ag y gwnaethon nhw, yn amlwg gêm Gwlad Belg, mae hi bron fel pe na baech chi’n gallu credu beth oeddech chi’n ei weld!

“Fel cefnogwr, roedd hi’n anhygoel i’w gwylio, ond fel chwaraewr oedd efallai wedi colli allan oherwydd anaf, roedd yn anodd i’w gymryd.

“Ond mae’n ychwanegu ysgogiad ychwanegol i geisio cael yn ôl i mewn.

“Dw i ddim yn chwaraewr ifanc ragor, dw i’n 30 mlwydd oed.

“Dim ond hyn a hyn o gyfleoedd gewch chi i geisio cyrraedd prif dwrnament; mae’n rywbeth alla i ddim aros i gael bod yn rhan ohono.”

Dyddiau da yn Aberystwyth

Cafodd Tom Bradshaw wybod gan Gary Rowett, rheolwr ei glwb Millwall, ei fod e wedi’i alw’n ôl i’r garfan ar gyfer dwy gêm gynta’r ymgyrch.

Roedd e ar ei ffordd i’r feithrinfa i gasglu ei ferch pan ddaeth yr alwad yn dweud bod y clwb wedi derbyn e-bost yn rhoi gwybod iddyn nhw.

“Fe wnes i dynnu drosodd a ffonio fy nhad,” meddai am yr hyn ddigwyddodd wedyn.

“Fe yw fy nghefnogwr mwyaf er pan oeddwn i’n wyth neu naw oed, ac roedd e ar ben ei ddigon.

“Roedd fy holl deulu wedi cyffroi, felly roedd hi’n ddiwrnod braf.”

Mae e wedi dod yn bell ers y dyddiau pan oedd e’n cynrychioli Aberystwyth yn ystod tymor 2008-09, ond fe gafodd ei atgoffa o’r cyfnod pan gafodd ei dagio mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon.

“Fe wnaeth Sgorio fy nhagio i mewn postiad ar Instagram, ac roedd hi’n anhygoel sawl neges ges i gan bobol yn dweud mai prin roedden nhw’n fy adnabod i!

“Roeddwn i ond yn 15 neu 16 oed, ond roedden nhw’n ddyddiau gwych.

“Dyna’r dyddiau cyn bod pwysau ychwanegol i bêl-droed, oherwydd roeddwn i yn y Chweched Dosbarth yn gwneud fy ngwaith ysgol ac yna’n ymarfer bob dydd Mawrth a chwarae ar ddydd Sadwrn, yn chwarae pêl-droed gyda dynion.

“Dw i’n edrych yn ôl ac ro’n i mor fach, dw i ddim yn gwybod sut y gwnes i hi.

“Hyd yn oed y gôl wnes i ei phostio ar Instagram, dw i’n meddwl mai dyna’r tro diwethaf i fi dorri amddiffynnwr a’i rhoi hi yn y gornel uchaf!

“Ers hynny, dw i wedi bod yn tapio’r bêl!

“Roedden nhw’n ddyddiau gwych ac roedd set gwych o fois o ‘nghwmpas i ar y pryd.

“Roeddwn i’n ddigon lwcus i fwrw ymlaen o’r fan honno i arwyddo i’r Amwythig.”

“Mwynhau”, nid “gorfeddwl”

Ond does dim lle i sentiment bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, gyda Chymru’n dechrau ar eu hymgyrch i gyrraedd eu twrnament mawr nesaf.

Gyda’r tîm cenedlaethol ar drothwy’r bennod nesaf yn eu hanes, mae’r ymosodwr yn awchu i gael bod yn rhan fawr o’r cyfan.

“Dw i eisiau mynd â fy mherfformiadau i fy nghlwb i mewn i’r gwersyll yma ac i’r gemau hyn,” meddai.

“Byddai unrhyw chwaraewr yn dweud wrthych chi, pan maen nhw’n teimlo’n hyderus, dydyn nhw ddim yn gorfeddwl am unrhyw beth, ac yn mwynhau eu pêl-droed, a dyna dw i eisiau dod â fe i mewn i’r gwersyll yma.

“Dw i wedi cael llawer o negeseuon yn dweud nad yw 30 erioed wedi edrych cystal!

“Mae wedi bod yn dymor anhygoel hyd yn hyn, ond dydyn ni ddim wedi cyflawni unrhyw beth eto, yn bersonol nac yn y clwb nac ar y lefel ryngwladol.

“Yn bersonol, hanner y gwaith sydd wedi’i wneud lle dw i’n chwarae’n dda ond mae targedau mwy na hynny o ran Millwall a Chymru.

“Dw i ddim am dynnu fy llygaid oddi ar y bêl, a bydda i’n barod dros fy nghlwb ac fy ngwlad.”