Bydd Johnny Wiliams yn dechrau i’r Scarlets am y tro cyntaf ers mis Hydref yn y gêm yn erbyn Cell C Sharks o Dde Affrica ym Mharc y Scarlets brynhawn heddiw (Mawrth 25).

Cafodd effaith fawr oddi ar y fainc yn erbyn Munster yn ystod y gêm ddiwethaf, a bydd y canolwr yn gobeithio gwneud argraff eto yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig heno.

Mae tri newid arall i’r tîm fu’n chwarae yng Nghorc ddechrau’r mis, gyda Tom Rogers yn dechrau fel cefnwr yn lle Johnny McNicholl, sydd wedi anafu’i ben-glin.

Bydd Steff Evans yn chwarae ar yr asgell dde, tra bo Ryan Conbeer yn dychwelyd i’r asgell chwith wedi anaf.

Gareth Davies, sydd wedi chwarae i’r Llewod a dros Gymru, fydd yn safle’r mewnwr.

Dydy sawl chwaerwr arall ddim ar gael yn sgil anafiadau, gan gynnwys Jonathan Davies, Rya Elias, Scott Williams, a Samson Lee.

Bydd y gêm i’w gweld ar S4C, gyda’r gic gyntaf am bump o’r gloch.

‘Her fawr’

Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel bod y Sharks yn dod draw gyda chwaraewyr “sydd ag enw da yn fyd-eang”, felly y bydd hi’n “her fawr”.

“Ond mae’r hogiau’n barod i fynd,” meddai.

“Pryd bynnag rydych chi’n chwarae tîm o Dde Affrica, waeth pwy yw’r enwau yn y tîm, rydych chi’n gwybod bod rhaid cyrraedd lefel benodol o ran pa mor gorfforol yw’r gêm, peidio gwneud camgymeriadau, a gallu rhoi pwysau arnyn nhw.

“Fe wnaethon ni chwarae’r Bulls yma ychydig yn ôl, fe ddaethon nhw ag enwau mawr efo nhw ond roedd hi’n gêm wych o rygbi.”

Y tîm: 15 Tom Rogers; 14 Steff Evans, 13 Joe Roberts, 12 Johnny Williams, 11 Ryan Conbeer; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Kemsley Mathias, 2 Shaun Evans, 3 Javan Sebastian, 4 Vaea Fifita, 5 Sam Lousi, 6 Josh Macleod (capten), 7 Dan Davis, 8 Sione Kalamafoni.

Eilyddion: 16 Taylor Davies, 17 Steff Thomas, 18 Sam Wainwright, 19 Morgan Jones, 20 Aaron Shingler, 21 Kieran Hardy, 22 Dan Jones, 23 Ioan Nicholas.