Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau sy’n cynnwys cael naill ai prif weithredwr neu gadeirydd benywaidd ar eu bwrdd.

Mae’r cynigion, fydd yn mynd at glybiau am bleidlais ar Fawrth 26, hefyd yn cynnwys cael o leiaf pum dynes ar y bwrdd rheoli – sydd â deuddeg o aelodau.

Daw hyn yn sgil honiadau o “ddiwylliant gwenwynig” o fewn yr undeb ac ymddiswyddiad prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips.

Bydd tasglu annibynnol nawr yn cael ei sefydlu i edrych ar newidiadau o fewn yr undeb.

Yn ôl y prif weithredwr dros dro, Nigel Walker, mae dyfodol y sefydliad yn y fantol oni bai bod newidiadau’n cael eu gwneud.

Ar hyn o bryd dim ond un ddynes sydd ar fwrdd Undeb Rygbi Cymru.

Bydd rhaid i 75% o’r clybiau sy’n aelodau o Undeb Rygbi Cymru bleidleisio o blaid y newidiadau..

‘Moderneiddio’

“Mae’r cyfrifoldeb arnom ni i egluro manteision y cynigion yr ydym yn eu gwneud wrth aelodau, a byddan ni’n gwneud hynny, ond dw i hefyd yn credu y bydd aelodau’n deall rheidrwydd yr hyn yr ydym ni’n ceisio’i gyflawni,” meddai Ieuan Evans, cadeirydd Undeb Rygbi Cymru.

“Rydym yn gofyn i aelodau ganiatáu i ni wneud newidiadau sylweddol i’n cyfansoddiad.

“Ond mae’n rhaid i ni hefyd fod yn gwbl dryloyw ynghylch graddfa’r newid sydd ei angen i sicrhau goroesiad rygbi Cymru.

“Bu ymgynghoriad eang gyda Bwrdd Undeb Rygbi Cymru yn cymeradwyo’r argymhellion hyn ym Medi 2022 ar ôl cwblhau adolygiad allanol annibynnol o’n llywodraethu a’i effeithiolrwydd.

“Mae’r cynigion yn mynd i’r afael â holl argymhellion allweddol yr adolygiad allanol ac ein ple ganolog i’r aelodau yw y byddai’r [argymhellion] yn caniatáu inni wneud y newidiadau hyn er lles y gêm yng Nghymru.

“Mae dewis plaen o’n blaenau, i wywo neu lewyrchu a byddan ni’n ymweld â chlybiau a’r cylchoedd o amgylch Cymru i egluro’r genhadaeth hon a’u perswadio nhw i bleidleisio o blaid y camau hyn i foderneiddio’r sefydliad.”

Croesawu ymddiswyddiad Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru

Mae Steve Phillips wedi camu o’r neilltu yn dilyn honiadau o hiliaeth, misogynistiaeth a homoffobia o fewn y corff