Mae Louis Rees-Zammit, asgellwr tîm rygbi Cymru, wedi ymateb yn chwyrn ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Undeb Rygbi Cymru wedi gwahardd corau rhag canu ‘Delilah’ ar y cae cyn gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Fe fu pryderon ers tro am natur y geiriau, sy’n sôn am ddyn yn canfod ei gariad gyda dyn arall ac yn ei thrywanu i farwolaeth.
Fe wnaeth golwg360 dorri’r stori yn 2014 fod Dafydd Iwan wedi codi pryderon am y gân, gan ddweud ei bod hi’n “ddi-chwaeth” ac yn “anfoesol”.
Bryd hynny, roedd Tom Jones yn wfftio’r awgrym nad oedd y gân yn addas yn yr oes sydd ohoni.
Bellach, mae Undeb Rygbi Cymru’n wynebu honiadau o rywiaeth, hiliaeth a homoffobia, ac mae’n ymddangos bod gwahardd y gân rhag cael ei chanu yn un o’r camau cyntaf sy’n cael eu cymryd er mwyn ceisio glanhau eu delwedd.
Yn dilyn y ffrae, fe wnaeth y Prif Weithredwr Steve Phillips gamu o’r neilltu, gyda Nigel Walker yn ei olynu dros dro.
“Fydd ‘Delilah’ ddim yn ymddangos ar y rhestr chwarae corau ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Principality,” meddai llefarydd ar ran y stadiwm.
“Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru ddileu’r gân o’u hadloniant hanner amser a rhestr chwarae cerddorol yn ystod gemau rhyngwladol yn 2015.
“Mae corau gwâdd yn fwy diweddar hefyd wedi cael cais i beidio â chynnwys y gân yn ystod eu perfformiadau cyn gemau a thrwy gydol gemau.
“Mae Undeb Rygbi Cymru’n condemnio trais o unrhyw fath.
“Rydym eisoes wedi ceisio cyngor gan arbenigwyr ar y pwnc ar fater sensro’r gân, ac rydym yn barchus ymwybodol ei bod yn broblematig ac yn ypsetio rhai cefnogwyr oherwydd natur ei phwnc.”
Ymhlith y chwaraewyr sydd wedi ymateb i’r penderfyniad mae Louis Rees-Zammit, sydd wedi’i anafu ar hyn o bryd ac sydd allan o’r gemau yn erbyn yr Alban ac Iwerddon.
“Yr holl bethau sydd angen iddyn nhw eu gwneud, a dyna maen nhw’n ei wneud gyntaf,” meddai ar Twitter.
Penderfyniad “wedi’i wneud i leddfu pwysau”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu penderfyniad Undeb Rygbi Cymru hefyd, gan ddweud ei fod wedi cael ei wneud “er mwyn lleddfu’r pwysau mae Undeb Rygbi Cymru’n ei wynebu ar hyn o bryd”.
“Mae galwadau i wahardd y gân yn mynd yn ôl dros o leiaf y degawd diwethaf, ond eto mae Undeb Rygbi Cymru wedi penderfynu gweithredu nawr,” meddai Tom Giffard, llefarydd chwaraeon y blaid.
“Yr hyn mae pobol wedi bod yn galw amdano yw newid sefydliadol, gwella arferion gwaith a phroses gwyno well o ran Undeb Rygbi Cymru, ond yn hytrach maen nhw’n dewis gwahardd cân Tom Jones sy’n annwyl gan lawer.
“Fydd y weithred hon yn cyflawni dim byd.”