Mae Mentrau Iaith Cymru a PYST wedi bod yn cydweithio er mwyn lansio cylchdaith gigs newydd ar gyfer artistiaid Cymraeg.
Bydd y daith gyntaf yn digwydd yn y gwanwyn, pan fydd y band o Gaerdydd HMS Morris yn teithio o amgylch Cymru gyda chefnogaeth gan Hyll, Mali Hâf, Elis Derby a Bitw ar wahanol rannau o’r daith.
Nod y gylchdaith yw cynnig cyfleoedd i artistiaid deithio’r wlad ac ymweld â mannau nad ydyn nhw’n chwarae’n aml, os o gwbl.
Bydd y teithiau hefyd yn gyfle i ddod â cherddoriaeth fyw Gymraeg i ardaloedd sydd wedi cael eu “hamddifadu” dros y blynyddoedd diwethaf, meddai’r trefnwyr.
Y bwriad yw y bydd o leiaf pedair taith y flwyddyn, gyda’r lleoliadau yn amrywio o daith i daith.
“Mae’r Mentrau Iaith yn gyfarwydd â threfnu cyngherddau a gigs amrywiol ym mhob rhan o Gymru, ond wedi gweld y cyfnod diweddar yn un heriol iawn am resymau amlwg,” meddai Heledd ap Gwynfor ar ran Mentrau Iaith Cymru.
“Mae gallu cydweithio rhwng y Mentrau a gyda PYST yn golygu gallu cynnig cyfleoedd cyffrous i gynulleidfaoedd Cymru unwaith yn rhagor iddynt fwynhau cerddoriaeth Gymraeg ar ei orau.”
‘Mawr ei angen’
Y gobaith hefyd yw y bydd y digwyddiadau yn arwain at gynnydd mewn ymgysylltiad pobol â diwylliant Cymraeg, ac yn rhoi cyfle o’r newydd iddyn nhw fwynhau hynny yn eu hardaloedd.
“Mae’r gylchdaith yma yn rhywbeth y mae mawr ei angen ac yn cynnig nid yn unig adnodd gwerthfawr i artistiaid a labeli wrth hyrwyddo recordiau ond yn gam pwysig i sicrhau bod cerddoriaeth a’r iaith Gymraeg yn cael ei fwynhau yn gyson gan gynulleidfa ehangach a hynny o fewn eu hardal leol,” meddai Alun Llwyd ar ran PYST, sy’n hyrwyddo a dosbarthu cerddoriaeth i labeli ac artistiaid Cymru.
“Edrychwn ymlaen at weld y gylchdaith yn datblygu.”
Caiff y gylchdaith ei chefnogi gan gynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n helpu neuaddau pentref a grwpiau cymunedol i archebu sioeau proffesiynol.
Bydd y daith gyntaf yn cychwyn ar Fawrth 25 yn Llanrwst, a bydd HMS ar daith tan Ebrill 17 pan fydd y cyfan yn dod i ben yn Aberystwyth.