Mae darlledwyr o Gymru, Iwerddon, Tsieina a Gweriniaeth Corea wedi dod ynghyd i gyd-gynhyrchu cyfres newydd sy’n dathlu rhai o stadiymau chwaraeon pwysicaf y byd.

Mae Stadiymau (4×60) yn gyd-gynhyrchiad rhyngwladol arloesol rhwng S4C, y darlledwr Gwyddeleg TG4, a’r cwmnïoedd cynhyrchu Cwmni Da a Loosehorse, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan LIC China, Jeonju Television (JTV) ac Asiantaeth Cyfathrebu Corea (KCA).

Mae’r prosiect hefyd wedi ei gefnogi gan Cymru Greadigol, sef asiantaeth Llywodraeth Cymru.

Mae’r gyfres yn ymweld â rhai o stadiymau enwocaf y byd, gan gynnwys Stadiwm y Bird’s Nest yn Beijing, y Stadiwm Olympaidd yn Seoul, Stadiwm Azteca yn Ninas Mecsico ac Anfield yn Lerpwl.

Mae gan bob stadiwm ei chymeriad a’i hunaniaeth ei hun, ac yn y gyfres yma bydd gwylwyr yn cael mewnwelediad prin i bob un; o’u hanes unigryw ac awyrgylch gwefreiddiol, i’w pensaernïaeth arloesol ac arwyddocâd diwylliannol.

Mi fydd fersiwn Gymraeg y rhaglen ar S4C, Jason Mohammad: Stadiymau’r Byd, tra bydd y fersiwn Wyddeleg ar TG4, Na Góirt Órga, yn cael ei chyflwyno gan Dara Ó Cinnéide, cyn-seren y byd pêl-droed Wyddelig.

Mae’r prosiect yn dilyn ôl troed cyd-gynyrchiadau lwyddiannus eraill rhwng darlledwyr Celtaidd a darlledwyr o Asia, gan gynnwys Llanw/Tide a Glaw/Rain: The Untold Story.

“Mae Stadiymau’r Byd yn gyfres newydd cyffrous ac rydyn ni’n falch iawn o allu gweithio gyda’n partneriaid rhyngwladol i gynig mewnwelediad anhygoel mewn i rai o stadiymau bwysicaf y blaned,” meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C.

“Drwy gydweithio gyda’n partneriaid, mae’r gyfres hon yn agor ein drysau at gynulleidfaoedd byd eang ac yn arddangos safonau rhagorol y sector greadigol yma yng Nghymru.”

‘Iaith ddim yn rhwystr i lwyddiant rhyngwladol’

Yn ôl Alan Esslemont, Cyfarwyddwr Cyffredinol TG4, dydy “iaith ddim yn rhwystr i lwyddiant rhyngwladol”.

“Mae S4C wedi bod yn esiampl i TG4 ddilyn ers sawl blwyddyn, a Stadiymau yw’r cyd-gynhyrchiad ffeithiol safonol diweddaraf rhwng TG4 a Chymru,” meddai.

“Mae S4C yn bartner strategol rhyngwladol i TG4 wrth i ni weithio gyda’r sector annibynnol a chymuned greadigol yn Iwerddon, gyda’r nod o adeiladu cwmnïoedd llwyddiannus a chynaliadwy.”

Dywed Llion Iwan, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cwmni Da, mai “cystadleuaeth yw sylfaen unrhyw gamp”.

“Ac mae chwaraeon yn llwyddo denu pobol at ei gilydd, ar draws gymunedau a chenhedloedd, i ddathlu, cystadlu ac ymfalchïo yn y gystadleuaeth hollbwysig honno, mewn stadiymau,” meddai.

“Bydd y gyfres yn adrodd straeon o stadiymau ar draws y byd ac yn galluogi ein gwylwyr i fwynhau’r bensaernïaeth a’r dirwedd ryfeddol, ond hefyd i ddysgu am hanes a’u diwylliant.

“Mae pobol yn greaduriaid cymdeithasol, a nhw sydd â’r gallu i greu awyrgylch sydd yn unigryw i bob stadiwm.”

‘Llawer mwy nag adeilad neu ddarn o bensaernïaeth’

“Mae stadiwm yn llawer iawn yn fwy nag adeilad neu ddarn o bensaernïaeth; mae’n gadeirlan ble mae cymuned yn dod ynghyd i addoli eu harwyr,” meddai Cormac Ó hÁrgadáin, o Loosehorse.

“Mae hyn yn wir mewn ffeinal sirol yn Kerry neu mewn rownd derfynol Cwpan y Byd yn Ninas Mecsico.

“Mae’n fraint i gael y cyfle i gydweithio ar brosiect unigryw o’r fath yma a dilyn Dara Ó Cinnéide wrth iddo arwain gwylwyr Gwyddeleg drwy ddathliad o angerdd pur y byd chwaraeon.”

Bydd Na Góirt Órga yn cael ei darlledu ar TG4 ar Fawrth 24, gyda Jason Mohammad: Stadiymau’r Byd ar S4C ar Ebrill 5.