Wel, mae’r flwyddyn newydd yma yn gwibio heibio – dwi methu coelio ein bod ni ym mis Chwefror yn barod! Ac mae fy siwrne talwrna ar ben unwaith eto, gwaetha’r modd. Ond mi wnes i fwynhau fy Nhalwrn cyntaf yn y cnawd.

Ymunais a thîm Tegeingl yn 2021, gyda’r bwriad o gymryd rhan yng nghyfres ‘Talwrn y Beirdd’ BBC Radio Cymru yn 2022. Tîm sydd wedi hen sefydlu yw Tegeingl, wedi ei enwi ar ôl cantref hanesyddol yn y gogledd-ddwyrain.

Waeth i mi fod yn onest, doeddwn i heb glywed am ‘Y Talwrn’ tan ychydig flynyddoedd yn ôl, sy’n gyffredin iawn yn ardal Wrecsam. Yn ddiweddar, dwi wedi bod wrthi’n dweud wrth unrhyw un sy’n fodlon gwrando fy mod wrthi’n paratoi fy nhasgau at y Talwrn, a’r ymateb fwyaf cyffredin yw ‘Beth yw’r Talwrn?’

Yn wir, o beth rwy’n deall, Tegeingl yw unig tîm Talwrn y gogledd-ddwyrain, ac rydym yn mynd yn dîm llai hefyd; yn ddiweddar, wnaethom golli aelod gwerthfawr o’r tîm, sef Les Barker.

Felly, cyn i mi fynd ymhellach hefo’r erthygl hon, hoffwn wahodd unrhyw darpar Dalyrnwyr o’r gogledd-ddwyrain i gysylltu am sgwrs.

Y Talwrn 2022 – mater rhithiol

Mae’n ddiddorol defnyddio’r Talwrn fa’ma fel marc yn y tywod; roedd sefyllfa Covid adeg yma’r flwyddyn ddiwethaf dal yn ansicr felly roedd pob tîm yn rhithiol.

Mae’r Talwrn yn rhannu tasgau, neu themâu, hefo’r timau gwpwl o wythnosau cyn recordio’r rhaglen ac yna, fel arfer, mae pawb yn ymgynnull mewn neuadd bentref, neu dafarn neu rywle tebyg, ac mae’r beirdd yn perfformio’u gwaith.

Mae’r Meuryn wedyn yn beirniadu’r gwaith ac yn rhoi marciau i bob cerdd ac, fel unrhyw gystadleuaeth, y tîm buddugol yw’r tîm hefo’r mwyaf o bwyntiau.

Ond y flwyddyn ddiwethaf, wnaethon ni gael y tasgau dros e-bost, cyfansoddi, trafod fel tîm, wedyn recordio’n perfformiadau ein hunain ar ffonau symudol ac ati, a’u hanfon nhw ymlaen i’r Talwrn.

Mi wnaeth y Meuryn, Ceri Wyn Jones, a gweddill tîm BBC Radio Cymru olygu’r gwaith ac wedyn darlledu’r rhaglen ar y radio, a chyhoeddi’r cerddi a’r marciau ar y wefan, yn ôl y drefn arferol.

Mi roedd hi dal yn broses ddifyr a chyffrous cael clywed fy ngwaith yn cael ei ddarlledu a’i weld ar y wefan, ond tydy canu neu adrodd cerdd i mewn i ffôn symudol ddim patch ar ganu a darllen o flaen cynulleidfa, nadi?

Y gân ysgafn a’r delyneg

Gan nad wyf yn medru cynganeddu, dwi’n dueddol o ganolbwyntio ar ornest y delyneg a’r ‘gân ysgafn’. Paratoais dair cân. Roedd y gyntaf yn ocê, ac roedd yr ail un yn well, yn fy marn i ac ym marn y ddiweddar Les, wnaeth ei galw’n ‘ardderchog’.

Y thema oedd ‘Y gêm genedlaethol’, ac mi roeddwn wedi paratoi cân am Bencampwriaeth Chwe Gwlad y rygbi – i’w chanu ar dôn y gân ‘King of the Road’. Fel cyn-gefnwr i dîm merched Prifysgol John Moores Lerpwl, roeddwn yn browd ohoni.

OND… Er bod y gân yma yn dechnegol dda, ac yn berthnasol, doeddwn i heb sylweddoli fod y gân ysgafn fel arfer ‘chydig yn amgen, felly fysa cân yn enwi rhyw ‘gêm’ arall yn fwy perthnasol.

Felly, gan sianeli fy holl egni ‘sili’, sgwennais gân gwbl wahanol, oedd ddim byd o gwbwl i wneud hefo byd chwaraeon; ac, ia, dyna’r un gafodd ei dewis gan y Meuryn!

Sgwennais sawl telyneg, a chafodd un dra bersonol ac emosiynol ei dewis; rwy’n browd iawn ohoni a’r feirniadaeth ohoni.

Cewch glywed y rhain a gweddill y perfformiadau o’r noson ar Y Talwrn ar BBC Radio Cymru, nos Sul, Chwefror 5.

Talwrn yng Neuadd Garth Garmon, Capel Garmon

Cafodd y Talwrn ei gynnal draw yng Nghapel Garmon. Gyrrais fyny’r allt, trwy’r tywyllwch, nes dod o hyd i’r neuadd fach hyfryd yng nghanol y pentref. Roedd yna groeso braf, hefo paneidiau a lluniaeth.

Un o’r pethau cyntaf sylweddolais wrth weld y beirdd eraill yn cyrraedd oedd eu bod nhw i gyd yn cydio yn ‘Yr Odliadur’, bron fel rhan o’u gwisgoedd – teimlais braidd yn noeth!

Yr ail beth sylwais yn ystod y noson oedd fod yna ddiwylliant pendant yma, un nad oeddwn yn gyfarwydd ag o. Roedd lot o jôcs a ballu yn mynd dros fy mhen, a theimlais fel ’taswn i o Tatooine… neu o leiaf fel taswn i ‘ddim yn Gymraes’.

Ond dyma ni’n dod at densiwn, ac un sy’n gyfrifol efallai am ein diffyg Talyrnwyr o Wrecsam. Yn ei lyfr am yr ardal, disgrifiodd Myrddin ap Dafydd ‘Y Gororau’ fel “gwlad rhwng gwledydd”. Cytunaf!

Mi roedd diwylliant ‘Cymraeg’ y noson hon mor ddieithr i mi a fy nheulu ag y mae’r Talwrn a’i debyg i’r rhan fwyaf o drigolion Wrecsam.

Mae yna gynulleidfa gefnogol ar gyfer digwyddiadau llengar trwy gyfrwng y Gymraeg yn y fro, ond does fawr o draddodiad barddol na chynganeddol o ran cyfranogi fel beirdd. Ond credaf fod yma botensial i greu sîn gyfoethog a chryf…