Mae tair actores ifanc wedi derbyn cefnogaeth gan S4C fel rhan o waith parhaol y sianel i hyrwyddo amrywiaeth a chynrychiolaeth o fewn y diwydiant creadigol yng Nghymru, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Enillodd Lauren Morais, myfyrwraig actio is-raddedig o Gaerdydd yr Ysgoloriaeth Amrywiaeth, ac enillodd Angharad Evans Quek o Abertawe y fwrsariaeth ar gyfer myfyriwr ar y rhaglen Stiwdio Actorion Ifanc, sy’n darparu hyfforddiant i actorion a dosbarthiadau theatr i bobol ifanc rhwng saith ac 20 oed.

Darparodd S4C arian tuag at fwrsariaeth arall hefyd, fel rhan o’r rhaglen fuddsoddi CultureStep Arts&Business Cymru.

Caniataodd y cyllid hwn i’r Coleg greu ysgoloriaeth ar gyfer myfyrwyr actio sy’n siarad Cymraeg, a Kellie-Gwen Morgan o Landeilo sydd wedi derbyn y fwrsariaeth hon.

‘Braint’

“Dwi’n mor ddiolchgar i dderbyn yr ysgoloriaeth,” meddai Lauren Morais.

“Fe fydd o gymorth mawr i fi pan dwi’n dechrau ar fy ngyrfa tu allan i’r CBCDC.

“Rydw i’n gyffrous iawn gyda beth sydd o flaen fi yn y dyfodol a’r cyfleoedd mae’r Coleg wedi eu creu i fi.

“Diolch o galon.”

Yn ôl Angharad Evans Quek, “roedd hi’n fraint a syrpreis braf iawn i glywed bod y CBCDC wedi fy enwebu i ar gyfer gwobr S4C”.

“Hoffwn ddiolch iddynt am yr holl gefnogaeth dwi wedi derbyn trwy’r Stiwdio Actorion Ifanc,” meddai.

“Mae’r cyfle i brofi cysylltiadau yn y diwylliant ac arweinyddiaeth oddi wrth bobol broffesiynol wedi bod yn anghredadwy.

“Mae’r wobr hon gan S4C wedi rhoi hwb i fy hyder a fy nghymhelliant i gyrraedd fy ngolau ac i bob tro anelu at ragoriaeth.”

Mae Kellie-Gwen Morgan yn dweud ei bod hi “mor ddiolchgar i S4C ac i Arts&Business Cymru am yr ysgoloriaeth”.

“Fydd hi’n rhoi cefnogaeth i fi drwy leihau’r gost, sy’n fy ngalluogi fi i ffocysu’n gyfan gwbl ar yr hyfforddiant,” meddai.

“Fel Cymraes falch, mae astudio a hyfforddi yn y CBCDC yn fraint a gyda chymorth yr ysgoloriaeth hon, rwy’n gyffrous iawn i allu ehangu fy sgiliau yn y tair blynedd nesaf a thu hwnt.”

‘Adlewyrchu Cymru heddiw’

“Dyma’r tro cyntaf i S4C a’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymrugweithio ar y cyd fel hyn a dwi wrth fy modd bod Lauren, Angharad a Kellie-Gwen wedi buddio o’r bwrsariaid,” meddai Gwenllian Gravelle, Pennaeth Di-Sgript S4C.

“Nod yr ysgoloriaeth a’r fwrsariaeth yw cefnogi siaradwyr Cymraeg sydd yn efallai wynebu rhwystrau oherwydd eu cefndiroedd ethnig neu hil, anabledd neu gefndir economaidd-gymdeithasol dan anfantais sylweddol i wella amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y celfyddydau perfformio Cymraeg eu hiaith.

“Mae’n rhan o nod S4C i sefydlu llwybr clir a darparu cefnogaeth fel y bod y sector yn adlewyrchu Cymru heddiw – ar y sgrin ac oddi ar y sgrin.”

‘Croesawgar, perthnasol, amrywiol a hygyrch’

“Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr â nodweddion gwarchodedig ac i’r rhai sydd mewn angen ariannol yn ein helpu i ddod yn fath gwahanol o conservatoire – un sy’n fwy croesawgar, perthnasol, amrywiol a hygyrch,” meddai’r Athro Helena Gaunt, Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

“Mae gwobrau fel ysgoloriaeth newydd S4C yn ein helpu i ddenu a meithrin talent artistig a darparu cyfleoedd i’r rhai sy’n eithriadol o ddawnus, beth bynnag fo’u hamgylchiadau ariannol.

“Rydym mor ddiolchgar i fod yn bartner gyda S4C i ddatblygu a thyfu’r gwaith pwysig hwn ac i ddyfnhau cynrychiolaeth a chynhwysiant yn y diwydiannau creadigol.”

Mae’r bartneriaeth rhwng S4C a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Busnes ac Amrywiaeth Arts&Business Cymru, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar Fawrth 23.