Mae diffyg cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cartrefi gofal yn effeithio ar faint mae preswylwyr Cymraeg yn cymdeithasu, yn ôl ymchwilydd.

Fel rhan o’i doethuriaeth yng Nghanolfan Heneiddio Arloesol Prifysgol Abertawe, mae Angharad Higgins wedi bod yn edrych ar brofiadau siaradwyr Cymraeg hŷn sy’n byw mewn gofal yng Nghymru.

Yn ogystal â cheisio deall profiadau’r preswylwyr a faint o gyfleoedd maen nhw’n eu cael ei ddefnyddio’r Gymraeg, mae hi wedi bod yn edrych ar sut mae cartrefi’n asesu anghenion ieithyddol, a pha wahaniaeth mae peidio gallu defnyddio’r Gymraeg yn ei chael ar bobol.

Mae bywyd yn “eithaf unig” i rai o’r bobol mae hi wedi cwrdd â nhw sydd ddim yn cael cyfle i siarad Cymraeg, oni bai pan fo ymwelwyr yn galw, yn ôl Angharad Higgins, sydd wedi bod yn cyfweld pobol dros 50 oed.

“Mae sawl un wedi dweud eu bod nhw wedi cael eu magu drwy gyfrwng y Gymraeg, maen nhw wedi codi plant yn siarad Cymraeg, wedi defnyddio Cymraeg ar yr aelwyd gydol oes ac wedyn maen nhw’n mynd i ofal a dydy’r cartrefi gofal ddim wastad yn ystyried anghenion ieithyddol,” meddai Angharad Higgins wrth golwg360.

“Mae rhai [cartrefi] yn [ystyried anghenion ieithyddol], mae rhai yn wych, ac mae rhai eisiau gwneud mwy.

“Ond i rai o’r bobol dw i wedi cwrdd â nhw, mae bywyd yn eithaf unig achos does ganddyn nhw neb i siarad Cymraeg ag oni bai am ymwelwyr.

“Be dw i wedi dysgu hyd yn hyn yw bod y gallu i ddefnyddio’r iaith yn effeithio ar faint mae rhywun yn cymdeithasu o fewn y cartref gofal a faint o amser mae rhywun yn treulio yn eu hystafell wely.

“Efallai bod rhywbeth yn digwydd yn y lolfa, ond os mae e’n rhywbeth sy’n uniaith Saesneg, neu mae’r teledu yn y lolfa’n chwarae rhaglenni Saesneg, mae pobol yn fyw tebygol o dreulio amser yn eu stafelloedd eu hunain ac yn mynd yn fwy unig.

“Mae rhai o’r bobol dw i wedi cyfweld â nhw, pan dw i wedi gofyn iddyn nhw sut brofiad oedd Covid pan doedd neb yn gallu dod mewn am sbel, maen nhw wedi disgrifio hwnna fel cyfnod anodd iawn lle oedd gyda nhw neb i siarad Cymraeg gyda.

“Mae lot o’r staff ddim yn siarad Cymraeg o gwbl.

“Roedd hwnnw’n gyfnod unig dros ben.

“Os oes rhywun arall yn y cartref yn siarad Cymraeg a bod pobol yn gallu dod at ei gilydd, mae hwnna’n gwneud byd o wahaniaeth.

“Dw i wedi siarad â theulu rhywun sy’n byw mewn cartref, ac fe wnaeth hi ddisgrifio sut oedd e gyda’i modryb a’i bod hi’n goleuo pan mae rhywun yn siarad Cymraeg gyda hi. Pan does neb yna, mae hi’n mynd yn ôl mewn i’w hunan.”

‘Rhannu arfer da’

Nid beirniadu ydy nod yr ymchwil, ond deall profiadau a rhannu arfer da “fel bod pethau’n gwella i’r person nesaf sy’n mynd mewn i gartref gofal yng Nghymru”.

“Mae gyda phawb hawl i gael eu gwasanaethau iechyd a gofal drwy’r Gymraeg, mae gyda nhw hawl o fewn y gyfraith ac mae fframwaith yn gosod hynny allan,” meddai Angharad Higgins.

“Be’ dw i wedi ffeindio ydy bod rhai pobol yn cael cynnig y gwasanaeth, rhai pobol ddim eisiau gofyn, ond dw i’n meddwl bod angen codi ymwybyddiaeth i bawb fel eu bod nhw’n gwybod bod gyda nhw hawl.

“Mae hwn i gyd yn y cyd-destun o ran yr holl bwysau sydd ar y sector gofal, sialensiau staffio, cymaint o swyddi gwag, dydy e ddim yn ddisgwyliad i bawb fod yn rhugl yn y Gymraeg ym mhob cartref gofal yng Nghymru.

“Ond lle mae yna bethau y gall pobol ei wneud i helpu sgiliau iaith, neu hyd yn oed jyst cydnabod pwysigrwydd iaith a’r gwahaniaeth mae ‘Bore da’ a ‘Shwmai’ yn ei wneud i ddangos i’r person bod yna rywun wedi’u cydnabod nhw fel unigolyn.

“Mae un cartref gofal sy’n gwneud gwaith hyfryd gyda phreswylwyr gyda dementia, maen nhw’n gwneud gwaith reminiscent lle mae rhywun wedi dod mewn â rhaw, efallai, ac maen nhw’n trafod pa eiriau gwahanol maen nhw’n eu cofio am raw er mwyn helpu pobol i gofio ac ailddarganfod hen eiriau.”

Newid agweddau

Wrth reswm, mae rhai cartrefi â nifer o aelodau o staff Cymraeg, ond mae yna le i newid agweddau hefyd, yn ôl Angharad Higgins.

“Fe wnes i ddod ar draws cartref arall, ac roedd hyn yn eithaf trist, lle’r oedd un o aelodau’r staff yn eithaf balch o’i hun a’n dweud ‘I don’t speak any Welsh’.

“Pan dw i’n siarad â chartrefi gofal ac yn gofyn pwy sydd ganddyn nhw’n siarad Cymraeg, dw i wedi’u cael nhw’n dweud pethau fel ‘Wel, mae gyda ni cwpwl ond maen nhw i gyd yn siarad Saesneg eniwe’.

“Yn ogystal â chyfweld â phobol ar draws y wlad, dw i hefyd wedi hala holiadur ma’s i gartrefi gofal ar draws y wlad yn gofyn sut maen nhw’n asesu anghenion ieithyddol, be maen nhw’n wneud sy’n cynnig gwasanaeth sy’n targedu siaradwyr Cymraeg.”

Mae’r sefyllfa’n gymysg ar draws y wlad, gyda rhai cartrefi’n cynnal asesiadau o anghenion ieithyddol ac eraill ddim, yn ôl Angharad Higgins.

“Mae rhai’n dweud eu bod nhw’n cael bore coffi Cymraeg lle maen nhw’n bwyta cacenni cri neu’n gwneud pethau ar gyfer y rygbi, ond bod rheiny ddim drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai.

Ymysg yr arferion da, mae gan rai cartrefi lolfeydd Cymraeg, ac mae eraill yn cynnal prynhawniau o ganu’n Gymraeg.

  • Mae Angharad Higgins dal wrthi’n chwilio am gyfranwyr, ac mae hi’n awyddus i recriwtio mwy o bobol sy’n byw mewn cartrefi gofal neu aelodau o’r teulu i gyfrannu at yr ymchwil. I fynegi diddordeb neu am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Hiraeth Cymru neu ei ffonio ar 07479428078.