Mae S4C ac Adran Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Memorandwm o gyd-ddealltwriaeth er mwyn gweithio tuag at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu ei defnydd erbyn 2050.

Fel rhan o’u cyfraniad i gyrraedd y miliwn, mae S4C eisoes wedi creu rôl newydd yn gyfrifol am gynnwys aml-blatfform i gefnogi dysgu Cymraeg.

Mae S4C yn ymrwymo i ddatblygu eu gwasanaeth i siaradwyr newydd i gefnogi’r rhai sy’n dysgu Cymraeg ac i wneud y cynnwys hyn yn hygyrch i bawb, a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd gan roi cyfleoedd i bobol glywed yr iaith.

Mae cyfres newydd, Stori’r Iaith, yn olrhain profiad a pherthynas pedwar cyflwynydd gwahanol gyda’r iaith Gymraeg, sydd yn adlewyrchu ymrwymiad S4C i greu cynnwys cyffrous i ddenu mwy o bobol i siarad Cymraeg ac i wylio’r cynnwys.

Mae hyn hefyd yn rhan o strategaeth ehangach S4C i gefnogi cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

‘Ffocws penodol ar yr iaith’

“Rydym ni i gyd yn S4C yn angerddol am yr iaith Gymraeg, ac yn awyddus i chwarae ein rhan i’w chefnogi a’i hybu,” meddai Sara Peacock, arweinydd Strategaeth y Gymraeg yn S4C.

“Mae’r Memorandwm yma yn dod â ffocws penodol ar yr iaith, sydd hefyd yn cael ei adlewyrchu yn ein Strategaeth y Gymraeg newydd sydd ar y gweill.

“Gan weithio’n agos gyda’r tîm Cymraeg 2050 yn y Llywodraeth, a’n holl bartneriaid yn y mudiadau a’r sefydliadau Cymraeg ar draws Cymru, gobeithiwn gyfrannu at ddyfodol ble mae ein hiaith yn wirioneddol perthyn i bawb.”

Yn ôl Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg yn Llywodraeth Cymru, “nod Cymraeg 2050 yw sicrhau bod mwy o bobol yn gallu siarad Cymraeg a bod y defnydd ohoni yn cynyddu”.

“Rwy’n falch o gyhoeddi’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn er mwyn sicrhau gweledigaeth gyffredin i gynyddu defnydd y Gymraeg a sicrhau dyfodol llwyddiannus i’n hiaith gyda’n gilydd,” meddai.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd ac mae Stori’r Iaith am chwarae rhan bwysig wrth ddangos perthynas wahanol bobol gyda’r Gymraeg.”

Lansio’r Memorandwm

Bydd S4C a Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad arbennig ar y cyd yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd ar nos Fawrth, Chwefror 7 i lansio’r Memorandwm gyda Jeremy Miles AS a’r cyflwynydd Sean Fletcher.

Sean Fletcher fydd cyflwynydd pennod gyntaf y gyfres newydd Stori’r Iaith, fydd yn cael ei darlledu ar S4C ar nos Fercher, Chwefror 8.

Mae’r gyfres o bedair rhaglen wahanol gyda Sean Fletcher, Lisa Jên, Alex Jones ac Elis James yn mynd â ni ar drywydd hanes y Gymraeg a’u perthynas unigryw nhw â’r iaith.

Bydd pecyn addysgol cynhwysfawr ‘Mwy o Stori’r Iaith’ yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan HWB Llywodraeth Cymru ar Fawrth 1, ac ar y wefan Mwy o Stori’r Iaith.

Mae’r pecyn addysgol yn cyd-fynd â’r gyfres deledu ac yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol trawsgwricwlaidd, llinell amser hanes yr iaith ynghyd ag wyth clip fideo yn seiliedig ar y gyfres deledu.

Cafodd y pecyn ei ddatgblygu gan Rondo Media ac Atebol, a’i ariannu trwy grant gan Lywodraeth Cymru.

Sean Fletcher: ‘Mae’r iaith yn perthyn i fi gymaint ag unrhyw un arall’

Bethan Lloyd

Dylwn ni ddefnyddio’r iaith heb fod ofn gwneud camgymeriadau, meddai’r cyflwynydd teledu