Mae apêl wedi’i lansio i anrhydeddu telynor o fri byd-eang mewn gŵyl ryngwladol lle bu’n llywydd.
Bu’r diweddar Dr Osian Ellis yn chwarae yn rhai o neuaddau cyngerdd gorau’r byd yn ystod ei yrfa, a bydd cystadlaethau er cof amdano yn rhan o Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru.
Bydd Gwobrau Osian Ellis gwerth cyfanswm o £8,000 yn cael eu dyfarnu i enillwyr cystadleuaeth y Prif Gerddor neu’r Pencerdd i delynorion ifanc, a aned ar neu ar ôl Medi 1, 1987.
Cafodd Osian Ellis, brodor o Ffynnongroyw yn Sir y Fflint, ei eni yn Ninbych, a bu’n byw ym Mhwllheli hyd at ei farwolaeth.
Am flynyddoedd, bu’n Brif Delynor gyda Cherddorfa Symffoni Llundain, ond gan iddo farw’n ystod pandemig Covid-19 yn 92 oed, fu fawr o gyfle i ffrindiau ac edmygwyr roi teyrnged iddo.
‘Arwydd o werthfawrogiad’
Ond bydd ei gyfraniad i ganu’r delyn a cherddoriaeth Gymreig yn cael ei gydnabod ym mhumed Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru, fydd yn cael ei chynnal yn Galeri yng Nghaernarfon rhwng Ebrill 5 ac 11.
“Fel arwydd o werthfawrogiad o’i etifeddiaeth gerddorol, mae Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru yn cysegru Cystadleuaeth y Pencerdd neu’r Prif Gerddor i delynorion ifanc, er cof amdano ac mae apêl wedi’i lansio i godi arian tuag at brif wobrau’r gystadleuaeth,” meddai Elinor Bennett, cyfarwyddwr yr ŵyl a chyn-ddisgybl i Osian Ellis.
“Rydym wedi cau’r ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth hon ac rydym yn disgwyl i 18 telynor o wyth gwlad o bob rhan o’r byd gymryd rhan.
“Derbyniwyd ceisiadau gan delynorion o Japan, UDA a hyd yn oed Awstralia.
“Mae’n galonogol iawn gweld cymaint o ddiddordeb yn y delyn ac yn ein gŵyl.”
Mae disgwyl i dros 100 o delynorion gymryd rhan yn ŵyl, ac mae’r ŵyl yn casglu cyfraniadau tuag at Wobrau Osian Ellis.
“Trwy gefnogi telynorion ifanc, gall ffrindiau, cydweithwyr a dilynwyr Osian ddangos eu gwerthfawrogiad o’i waith a sicrhau y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn cofio ei gyfraniad mawr i gerddoriaeth yn rhyngwladol,” meddai.