Mae’r telynor a chyfansoddwr byd-enwog Osian Gwynn Ellis wedi marw yn 92 oed.
Ac yntau yn delynor gorau ac amlycaf ei gyfnod, yn athro, cyfansoddwr, trefnydd, canwr penillion ac ysgolhaig, cyfrannodd yn helaeth i fyd cerddoriaeth werin y genedl.
Yn fab i weinidog, fe gafodd ei eni yn Ffynnongroyw, Sir y Fflint, ond fe’i magwyd yn Ninbych.
Yn blentyn, bu’n canu penillion a chaneuon gwerin mewn cyngherddau yng Nghymru gyda’i fam ac aelodau eraill o’i deulu.
Enillodd ysgoloriaeth i astudio’r delyn gyda Gwendolen Mason yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.
Olynodd ei athrawes fel athro telyn yn y sefydliad hwnnw o 1959 i 1989, gan ddylanwadu ar genedlaethau o gerddorion a thelynorion, yn eu plith Elinor Bennett a Sioned Williams.
‘Brenin y telynorion’
“Roedd yn berson hynod o hael a charedig, ac roedd ganddo ddaliadau cryf am werth cerddoriaeth, ac am safon perfformiadau,” meddai’r delynores Elinor Bennett.
“Roedd yn ei elfen wrth weithio ar y lefel uchaf bosibl ar gerddoriaeth gymhleth, heriol a chelfydd, fel ag a wnai gyda chymaint o gyfansoddwyr.
“Roedd Osian yn Gymro i’r carn a chafodd yrfa eithriadol o lwyddiannus, a bu ar frig ei broffesiwn am flynyddoedd lawer.
“Fo oedd Brenin y telynorion.”
Yn ystod ei yrfa treuliodd gyfnod yn Brif Delynor Cerddorfa Symffoni Llundain gan gydweithio gydag arweinyddion mawr y cyfnod megis Pierre Monteux, Pierre Boulez, Colin Davis, Antal Dorati, Andre Previn a Claudio Abbado.
Cydweithiodd hefyd â’r cyfansoddwr Benjamin Britten ac ychwanegodd ran y delyn i sawl un o’i brif ddarnau gydag Osian Ellis mewn golwg.
“Mae telynorion trwy’r byd yn ddyledus iawn i Osian am ei waith yn ysgogi cyfansoddwyr i greu gweithiau newydd i’r offeryn ac roedd y cydweithio gyda Britten yn bwysig ac arwyddocaol iawn,” ychwanegodd Elinor Bennett.
“Ond wnaeth Osian erioed anghofio’i wreiddiau, ac ar fore Sul, byddai’n canu’r organ yn y Capel Cymraeg yn Chiltern Street, Llundain, er y gallai fod – y noson gynt – yn perfformio yn y Royal Festival Hall Llundain, fel y telynor uchaf ei barch ym Mhrydain.”
‘Byd enwog’
Yn gynnar yn ei yrfa, ymddangosodd Osian Ellis mewn rhaglenni teledu poblogaidd gan gydweithio â’r actorion Richard Burton a Hugh Griffith, a pharhaodd y tri yn ffrindiau mawr.
Canodd y delyn ar rai o lwyfannau mwyaf y byd gan hyrwyddo’r offeryn a cherddoriaeth ei famwlad ym mhellafoedd byd.
Yn ddiweddarach bu’n aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru.
Derbyniodd anrhydeddau gan Brifysgol Cymru, Prifysgol Bangor a’r CBE gan y Frenhines.
Yn dilyn hyn deffrodd yr awen, a chyfansoddodd ddau waith newydd, ‘Cylch o Alawon Gwerin Cymru’ ar gyfer Bryn Terfel a Hannah Stone, a ‘Lachrymae’ er côf am Lłinos, merch i’w ferch yng nghyfraith, a fu farw’n ifanc o ganser.
Mae’n gadael ei fab Richard Llywarch, ei ferch yng nghyfraith Glynis, a’i wyrion, David a Katie.