Mae Donald Trump yn dweud bod y posibilrwydd o’i uchelgyhuddo yn achosi “dicter eithriadol”, ond nad yw e eisiau gweld trais yn y wlad eto.

Mae gwleidyddion yn ymgynnull yn y Capitol heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 12), a hynny am y tro cyntaf ers y digwyddiadau treisgar yno yr wythnos ddiwethaf pan gafodd nifer o bobol eu saethu wrth geisio mynediad i’r adeilad.

Mae’r gwleidyddion yn pleidleisio ar gynnig i alw ar y Dirprwy Arlywydd Mike Pence i ddatgan na all yr Arlywydd barhau yn ei swydd.

Os nad yw’n fodlon gwneud datganiad o’r fath, mae disgwyl i wleidyddion benderfynu uchelgyhuddo’r arlywydd – a hynny am yr ail waith yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.

Amddiffyn sylwadau

Dyma’r tro cyntaf i Donald Trump siarad â’r wasg ers y digwyddiad yn y Capitol yr wythnos ddiwethaf.

Mae e wedi amddiffyn y sylwadau am yr etholiad arlywyddol a wnaeth gerbron rali yr wythnos ddiwethaf, gan ddweud eu bod nhw’n rhai “cwbl briodol”.

Ond wrth drafod y posibilrwydd o gael ei uchelgyhuddo, mae’n dweud bod gwleidyddion yn “gwneud rhywbeth ofnadwy”.

“Dydyn ni ddim eisiau trais,” meddai wedyn. “Byth trais.”

Uchelgyhuddo

Mae Donald Trump yn wynebu un cyhuddiad, sef annog gwrthryfel.

Bydd gwleidyddion yn dechrau trafod y cyhuddiad yfory (dydd Mercher, Ionawr 13), wythnos union cyn i Joe Biden ddod yn Arlywydd yn swyddogol.

Mae’r FBI yn rhybuddio am brotestiadau arfog yn Washington a sawl talaith cyn i’r arlywydd newydd ddod i rym.

Fydd dim modd i’r cyhoedd gyrraedd safle seremoni urddo’r arlywydd yn y Capitol, lle bu farw plismon o ganlyniad i’w anafiadau a lle wnaeth yr heddlu saethu dynes.

Bu farw tri o bobol eraill o ganlyniad i argyfyngau meddygol, meddai’r awdurdodau.

Mae holl wleidyddion Hisbaenaidd y Gyngres – 34 ohonyn nhw – eisoes wedi cytuno i gefnogi’r broses uchelgyhuddo, gan alw am symud yr arlywydd o’i swydd ar unwaith.

Ac mae Donald Trump a Mike Pence wedi cytuno i gydweithio am weddill yr wythnos cyn i’w cyfnod wrth y llyw ddod i ben.

Mae’r Democratiaid yn dweud bod ganddyn nhw ddigon o aelodau sydd o blaid uchelgyhuddo Donald Trump er mwyn bwrw iddi.