Mae cannoedd o bobol wedi ymgynnull tu allan i orsaf heddlu Bae Caerdydd yn dilyn marwolaeth Mohamud Mohammed Hassan ar ôl bod yn y ddalfa.

Gorymdeithiodd y protestwyr o Lyfrgell Caerdydd i’r orsaf heddlu y prynhawn yma (dydd Mawrth, Ionawr 12).

Daw hyn wedi i Mohamud Mohammed Hassan, 24 oed, gael ei ddarganfod yn farw yn ei gartref ar ôl treulio noson yn yr orsaf heddlu.

Cafodd ei gludo i’r ddalfa ym Mae Caerdydd nos Wener, Ionawr 8, a’i ryddhau’n ddi-gyhuddiad y diwrnod canlynol.

Bu farw’n ddiweddarach nos Sadwrn, Ionawr 9.

Mae tudalen gofund.me,   sydd yn galw am atebion ynglŷn â’i farwolaeth “sydyn ac anesboniadwy” eisoes wedi codi bron i £30,000 ar gyfer ei angladd ac i dalu ffioedd cyfreithiol.

Mohamud Mohammed Hassan

Mae’r prif weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn disgwyl ymchwiliad “trylwyr” i farwoaleth Mohamud Mohammed Hassan.

Mae’r mater wedi cael ei gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Roedd tystion wedi cael sioc o weld ei gyflwr ar ôl iddo adael y ddalfa, gan ddweud bod gwaed ar ei ddillad a bod ganddo anafiadau difrifol a chleisiau.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y llu nad oedd eu hymchwiliadau cynnar yn awgrymu unrhyw gamymddwyn neu rym eithafol.

Dyn 24 oed wedi marw’n sydyn ar ôl bod yn y ddalfa yng Nghaerdydd

Heddlu De Cymru yn cadarnhau bod Mohamud Mohammed Hassan wedi treulio noson mewn gorsaf heddlu cyn cael ei ddarganfod yn farw yn ei gartref