Mae Rhun ap Iorwerth yn galw am ddosbarthu brechlynnau Covid-19 yn ôl y galw yn hytrach nag yn ôl y boblogaeth.
Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru hefyd yn dweud bod ganddo “bryderon go iawn” am ddosbarthu’r brechlynnau yng Nghymru.
Erbyn canol mis Chwefror, mae disgwyl y bydd preswylwyr cartrefi gofal, staff iechyd a gofal cymdeithasol, pawb dros 70 oed a phawb sy’n fregus dros ben fod wedi’u brechu.
Y nod hefyd yw y bydd pawb dros 50 oed wedi eu brechu erbyn y gwanwyn.
“Mae’n dda fod cerrig filltir wedi cael eu gosod,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth golwg360.
“Mae o’n well, ond mae o’n llac iawn, dydy brechu pobol erbyn y gwanwyn ddim yn darged fyddai’n gallu cael ei bennu yn wyddonol.
“Fodd bynnag, dyma’n sicr y math o beth rydym ni wedi bod yn gofyn amdano er mwyn rhoi syniad clir i bobol beth yw’r amserlen i ni fesur perfformiad.”
“Yn ôl y galw yn hytrach nag yn ôl y boblogaeth”
“Mi ydan ni wedi galw yn gyson dros yr wythnosau diwethaf am ddosbarthu’r brechlyn yn ôl galw, yn hytrach nag yn ôl y boblogaeth,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mi allai hynny fod yn bwysig iawn yn nyddiau cynnar dosbarthu’r brechlyn.”
Daw ei sylwadau wedi i’r Farwnes Natalie Jessica Evans, arweinydd Tŷ’r Arglwyddi, ddweud wrth y Tŷ mai yn seiliedig ar fformiwla Barnett y bydd y brechlynnau yn cael eu dosbarthu ar draws gwledydd Prydain.
“Dylai’r brechlyn gyrraedd y grwpiau mwyaf bregus a chael ei rannu yn ôl yr angen,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae gan Gymru fwy o bobol hŷn, felly mi ddylai fod mwy o’r brechlyn yn cael ei ddefnyddio yn y lle cyntaf er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn targedu pobol hŷn – dyna’r fformiwla ddylai fod yn cael ei ddefnyddio.
“Wedi dweud hynny, dydi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn araf yn rhannu’r brechlyn sydd ganddon ni ddim yn cryfhau ein dadl ni o hynny’n beth.”
‘Pryder go iawn’
“Pe bai modd i’r Llywodraeth roi trefn go iawn ar y system frechu yng Nghymru – ac mae gen i bryderon go iawn am yr hyn sydd yn mynd yn ei flaen – mae angen mwy o frechlynnau ar gyfer pobol dros 80 a 65 yng Nghymru’r pen nag yn Lloegr,” meddai Rhun ap Iorwerth wedyn.
Ychwanega fod Plaid Cymru yn parhau i alw am ragor o fanylion a data er mwyn mesur cyrhaeddiad y brechlyn.
“Mae angen mwy o wybodaeth, a mwy o dryloywder, mae’n bwysig i’r cyhoedd ac er mwyn gallu craffu yn iawn,” meddai.
“Rydym ni hefyd eisiau gwybod pa frechlyn rydym ni yn ei gael a lle mae pob brechlyn yn mynd, achos mae hynny yn gwneud gwahaniaeth.
“Be’ sy’n bwysig rŵan ydi bod y broses yn cyflymu go iawn, mae’n amlwg ein bod ni wedi dechrau yn rhy araf, ac mae Llywodraeth Cymru yn cyfaddef [hynny] erbyn hyn.
“Un rhan o’r ateb ydi gosod targedau, mae hynny yn rhoi ffocws i’r Llywodraeth, ond mae eisiau mwy na hynny, mae eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gweld trefn ar lawr gwlad er mwyn rhoi hyder, nid yn unig i fi fel gwleidydd, ond i’r cyhoedd ac i feddygon teulu, fod pethau yn iawn.”