Mae cwmni awyrennau Jet2 wedi canslo pob hediad a gwyliau tan Fawrth 25 o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch cyfyngiadau’r coronafeirws.

Roedd teithiau i Sbaen a’r ynysoedd Balearaidd eisoes wedi’u canslo tan Chwefror 11.

Does dim hawl gan bobol yng ngwledydd Prydain deithio am resymau hamdden ar hyn o bryd, tra bydd rhaid i deithwyr sy’n glanio yn Lloegr gael prawf coronafeirws negyddol cyn cael mynediad o ddydd Gwener (Ionawr 15).

Bydd cwsmeriaid Jet2 sydd wedi’u heffeithio’n cael eu harian yn ôl, meddai’r cwmni.

Fe wnaeth cwmni gwyliau Tui ohirio pob taith yr wythnos ddiwethaf am yr un rheswm, gan ddweud eu bod nhw am adolygu’r sefyllfa wrth i’r cyfyngiadau gael eu haddasu.