Dyn, 24, yn gwadu llofruddio Dean Skillin, 20, ym Mangor

Mae dyn 24 oed wedi gwadu iddo lofruddio dyn 20 oed ger gwesty ym Mangor.

Bu farw Dean Skillin o Gaernarfon yn dilyn digwyddiad ger gwesty’r Waverley ym mis Medi.

Fe wnaeth Bradon Sillence wadu llofruddiaeth, ond pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad pan aeth gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug trwy gyswllt fideo.

Bydd y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar Fawrth 22.

Cyhoeddi cynlluniau diogelwch adeiladau newydd i Gymru

Byddai diwygiadau Llywodraeth Cymru yn rhoi llais cryfach i breswylwyr ar faterion sy’n effeithio eu cartrefi

Darllen rhagor

Y ffigurau misol uchaf erioed i dudalen Facebook S4C

“Mae’r llwyddiant hwn yn deillio o’n strategaeth i ddatblygu elfennau digidol S4C”

Darllen rhagor

Drama am ddwy lofruddiaeth ddwbwl yn Sir Benfro’n denu 6.3m o wylwyr

Luke Evans a Keith Allen yn serennu yn The Pembrokeshire Murders ar ITV

Darllen rhagor

Coronafeirws: 16 yn rhagor o bobol wedi marw yng Nghymru (dydd Mawrth, Ionawr 12)

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud yn eu ffigurau dyddiol heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 12) fod 12 yn rhagor o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws yng Nghymru.

Mae’n golygu bod 3,997 o bobol wedi marw yn y wlad ers dechrau’r ymlediad.

Maen nhw wedi adrodd am 1,332 yn rhagor o achosion, sy’n mynd â’r cyfanswm hwnnw i 172,879.

Ac maen nhw hefyd yn dweud bod 91,239 dos cyntaf o’r brechlyn Covid-19 wedi’u rhoi, yn ogystal â 97 ail ddos.

Ond dydy’r ffigurau ddim yn debygol o fod yn fanwl gywir yn sgil y ffordd y caiff y ffigurau eu cofnodi a’u hadrodd.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 4,963 oedd y ffigwr erbyn Ionawr 1, ond mae’n 5,169 o gynnwys y marwolaethau yn ystod y diwrnodau canlynol.

Dedfrydu cyffurgi 20 oed o Sir Benfro i ddwy flynedd mewn sefydliad troseddwyr ifanc

Mae dyn 20 oed o Gaeriw, Sir Benfro, wedi’i ddedfrydu i dreulio cyfnod mewn sefydliad i droseddwyr ifanc am gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B.

Cyfaddefodd Joshua Humphries ei fod wedi bod yn cyflenwi ecstasi, MDMA a chanabis yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Wrth ymchwilio i’r achos, daeth swyddogion Heddlu Dyfed-Powys o hyd i ddwsinau o negeseuon ar ffôn Joshua Humphries yn ei gysylltu â chyflenwi cyffuriau i rwydwaith o bobol yn yr ardal.

Aeth gerbron Llys y Goron Abertawe yr wythnos ddiwethaf (Ionawr 7), a chafodd ei ddedfrydu i dreulio dwy flynedd a phum mis mewn sefydliad ar gyfer troseddwyr ifanc.

“Rydym yn gobeithio fod hyn yn gyrru neges i bobol ifanc eraill sydd ynghlwm â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon, neu rai sy’n meddwl am gymryd rhan – byddwn yn dod i wybod am eich gweithgareddau ac yn eich erlyn, hyd yn oed os nad oes gennych chi gyhuddiadau blaenorol,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Owen o dîm cyffuriau Sir Benfro Heddlu Dyfed-Powys.

Organ Capel Soar, Merthyr Tudful

Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dychwelyd i S4C

“Mae Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol yn ffordd effeithiol iawn i addolwyr ddod at ei gilydd yn un cynulleidfa fawr ar fore Sul,” meddai S4C

Darllen rhagor

28 o yrwyr bysiau Arriva wedi profi’n bositif am y coronafeirws yn ardal Wrecsam

Mae’r cwmni’n annog pob teithiwr i wisgo mygydau wyneb yn sgil yr achosion

Darllen rhagor

Indonesia

Dod o hyd i focs du awyren Indonesia

Fe blymiodd i Fôr Java wrth gludo 62 o bobol

Darllen rhagor