Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru am fwy o eglurder ynghylch pryd y bydd pobol yn cael eu brechu yn erbyn y coronafeirws.
Daw’r alwad gan Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd y blaid, mewn llythyr agored at yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething er mwyn meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd yn y rhaglen frechu.
Mae’r llythyr yn codi “pryderon gwirioneddol” ynghylch cyflymdra, tryloywder a chyfathrebu’r rhaglen, gan ddweud bod y cyhoedd “eisiau gwybod pryd y gallen nhw ddisgwyl y brechlyn”.
Yn y llythyr, mae Rhun ap Iorwerth yn galw am ddangosfwrdd o wybodaeth er mwyn i’r cyhoedd weld y sefyllfa drostyn nhw eu hunain, gan gynnwys nifer y dosau sydd wedi’u rhoi gan fyrddau iechyd ac yn ôl grwpiau blaenoriaeth.
Dywed y byddai hynny’n “mynd yn bell” wrth helpu i adfer ymddiriedaeth y cyhoedd.
Mae e hefyd yn galw am eglurder ynghylch System Imiwneiddio Cymru ac a yw’n gallu cyflawni’r tasgau sydd wedi’u bwriadu, gan gynwys creu apwyntiadau, anfon llythyrau ac amserlennu ail ddos yn awtomatig.
Yn ogystal, mae’n galw am:
- ganolfannau brechu i fod ar agor 7 diwrnod yr wythnos
- argaeledd eang o ganolfannau brechu ar ffurf gyrru heibio
- lleihau gwastraff drwy sicrhau bod brechlynnau parod ar gael ar sail ‘y cyntaf i’r felin’ ar ddiwedd y dydd
‘Pryderon gwirioneddol’
“Mae pryderon gwirioneddol am y rhaglen frechu, yn enwedig o ran cyflymder, tryloywder a chyfathrebu yn ystod y camau cychwynnol hyn,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae pobol am wybodd pryd y gallen nhw ddisgwyl y brechlyn.
“Bydd gosod targedau yng nghynllun brechu Llywodraeth Cymru, a chynnwys dangosfwrdd o wybodaeth sy’n ateb cwestiynau ynghylch nifer y dosau fesul bwrdd iechyd a grŵp blaenoriaeth, yn mynd ymhell o ran helpu i feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd, gan y byddant yn gallu olrhain cynnydd drostynt eu hunain.
“Mae gennym gyfnod byr o wythnosau cyn i’r difrod o amodau caeth, yn enwedig cau ysgolion, ddod yn fwy arwyddocaol fyth.
“Ar hyn o bryd mae gennym feirws sy’n heintio mwy o bobol bob wythnos nag sy’n cael y brechlyn.
“Felly, mae ehangu cyflymder a graddfa’r brechiadau yn hanfodol, yn ogystal ag adfer hyder y cyhoedd bod gan lywodraethau gynllun i ennill y frwydr hon yn erbyn y feirws.”