Mae mudiadau gwirfoddol sy’n dosbarthu bwyd i’r anghennus yng Ngwynedd yn cael eu hannog i geisio am help ariannol gan y Cyngor.

Ar ôl sicrhau £24,360 o arian grant Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Gwynedd yn cynnig grantiau i grwpiau lleol brynu offer fel oergelloedd a rhewgelloedd i’w helpu yn eu gwaith.

Mae’r mudiadau hyn eisoes yn gweithio gyda siopau ac archfarchnadoedd yn lleol i ddosbarthu bwyd nad ydyn nhw’n gallu ei werthu. Er bod y bwyd yma’n gwbl fwytadwy mae pethau fel gwall ar label y bwyd, gormodedd ohono neu ei fod yn dynesu at ddiwedd ei oes silff yn eu rhwystro rhag ei werthu.

“Mae’n ffaith dorcalonnus fod yna deuluoedd yn ein cymunedau yma yng Ngwynedd sy’n ei chael hi’n anodd cael bwyd maethlon ar y bwrdd,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar faes gwastraff ac ailgylchu.

“Mae amcangyfrifon diweddaraf yn dangos fod o leiaf 250,000 tunnell o’r diwydiant bwyd a diod y gellir ei ddosbarthu i fwydo pobl yn y Deyrnas Gyfunol bob blwyddyn – mae hynny’n ddigon i ddarparu 650 miliwn o brydau bwyd i bobl sydd mewn angen.

“Ein bwriad fel Cyngor gyda’r cynllun yma ydi sicrhau fod gan y grwpiau yma yr offer angenrheidiol fel eu bod yn gallu storio bwyd maethlon er mwyn gallu rhannu ei ddosbarthu gyda phobl yn lleol.

“Rydan ni eisiau clywed gan unrhyw grwpiau lleol yma yng Ngwynedd sydd yn rhannu bwyd yn eu cymunedau er mwyn eu cefnogi yn y gwaith o gasglu, cludo neu ail-ddosbarthu bwyd.  Mae’r Cyngor yn arbennig o awyddus i glywed gan brosiectau sydd yn gobeithio ehangu’r cynnig o fwyd ffres, er enghraifft trwy sefydlu oergelloedd cymunedol.”

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael yma.