Mae gwyddonwyr yn rhybuddio bod angen cyfyngiadau llymach ledled Prydain er mwyn cael effaith tebyg i’r hyn a gafodd y cyfnod clo fis Mawrth diwethaf ar niferoedd achosion coronafeirws.

“Mae’r cyfyngiadau presennol yn dal i ganiatáu llawer o weithgarwch sy’n lledaenu’r feirws,” meddai’r Athro Robert West.

Dywed yr athro siecoleg iechyd ym Mhrifysgol Llundain fod yr epidemiolegwyr, gwyddonwyr meddygol a feirolegwyr y mae wedi siarad â nhw i gyd o’r farn y dylid tynhau’r rheolau.

“Gan fod gennym straen fwy heintus, sydd tua 50% yn fwy heintus na’r tro diwethaf ym mis Mawrth, mae’n golygu y byddai’n rhaid inni gael cyfnod clo llymach i gael yr un canlyniad – ond mewn gwirionedd mae’n llai llym,” meddai.

Mae hefyd yn feirniadol o’r llywodraeth, gan amau eu honiad eu bod wedi gweithredu ar yr amser iawn.

“Roedd modd osgoi lefel yr heintiadau a’r niferoedd,” meddai. “Dyna yw’r peth gwirionedd rwystredig i bawb ohonom sy’n gweithio mewn iechyd cyhoeddus.

“Pan mae’r llywodraeth yn dweud ein bod ni ‘yn yr un cwch â gwledydd eraill,’ ac ‘nad oedd modd rhagweld hyn’ a’u bod ‘yn gweithredu ar yr adeg iawn’, mae’n anwiredd llwyr.”

Dywed cydweithiwr iddo o Brifysgol Llundain hefyd, Susan Michie, fod y cyfnod clo presennol yn rhy llac.

“Mae hi’n dymor y gaeaf arnom, ac mae’r feirws yn goroesi’n hirach yn yr oerni, a phobl yn treulio mwy o amser o dan do, ac fe wyddon ni fod trosglwyddo drwy’r awyr o dan do yn ffynhonnell fawr o drosglwyddo’r feirws hwn,” meddai.

“Ac yn ail, mae gennym y straen newydd sy’n 50-70% mwy heintus. Rhowch y ddau beth gyda’i gilydd, yn ogystal â’r NHS mewn argyfwng, dylem gael cyfnod clo llymach ac nid llai llym nag a gawsom ni ym mis Mawrth.”