Mae rhannau helaeth o Sbaen o dan drwch o eira gan achosi anhrefn ar ffyrdd a rhwystro gwasanaethau trenau ac awyrennau.
Roedd asiantaeth dywydd y wlad wedi rhybuddio y gallai hyd at 20cm o eira ddisgyn yn ystod y nos, ond mae dyfnder yr eira’n fwy na 50cm mewn llawer lle, gan gynnwys ardaloedd trefol.
Mae’r fyddin wedi bod yn helpu achub miloedd o bobl o’u ceir ar briffyrdd o amgylch Madrid ac mae maes awyr y brifddinas wedi cau am y diwrnod. Gyda dros 400 o ffyrdd wedi cau, a phob gwasanaeth trên o Madrid wedi’i atal, mae awdurdodau trafnidiaeth y wlad yn apelio ar y cyhoedd i aros adref.
Mae eira wedi disgyn yn ddi-baid am fwy na 24 awr mewn sawl ardal yn sgil cyfuniad anarferol o awyr oer dros benrhyn Iberia yn dod i gysylltiad â Storm Filomena o’r de.