Mae awyren ac arni 62 o bobl ar ei bwrdd wedi mynd ar goll yn Indonesia.
Roedd yr awyren Boeing 737-500 wed gadael y brifddinas tua 1.56pm ac wedi colli cyswllt â rheolwyr traffig awyr mewn llai nag awr. Roedd hi ar y ffordd i Pontianak ar ynys Borneo, taith a ddylai gymryd 90 munud, ac yn cludo 56 o deithwyr a chriw o chwech.
Parhau mae’r chwilio amdani er mai cynyddu mae’r pryderon gan ei bod yn nos yno erbyn hyn.