Mae penderfyniad y grwp lobïo o blaid Brexit, Leave.EU, i symud i Iwerddon wedi ennyn ymateb chwyrn gan un o aelodau seneddol y wlad.

Dywed Neale Richmond nad oes dim croeso iddyn nhw yno, ac mai unig amcan yr ymgyrchwyr wrth symud eu pencadlys i gyfeiriad yn Waterford yw cadw’r hawl i ddefnyddio’u enw parth ‘dot’ EU.

Mae’n galw ar y rheoleiddiwr Comreg a’r Gweinidog Cyfathrebu Eamon Ryan i ymchwilio a oes hawl ganddyn nhw i gadw enw’r parth.

Meddai Neale Richmond:

“Mae Leave.EU yn fudiad ymgyrchu afiach sydd wedi bod ar waith yn y Deyrnas Unedig dros y tair blynedd ddiwethaf, yn ymgych refferendwm Brexit ac yn y trafodaethau wedyn.

“Yn wir, maen nhw wedi cael eu dirwyo am eu gweithgareddau yn y refferendwm.

“Mae angen sicrhau a yw’n gyfreithlon iddyn nhw symud yma i gadw eu henw parth dot EU.

“Does arnom ni ddim eisiau Leave.EU yn Iwerddon, does arnom mo’u heisiau nhw yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Yn wir, doedd arnyn nhw ddim eisiau bod yn yr Undeb Ewropeaidd eu hunain.

“Felly os ydyn nhw’n ceisio symud yma, mae’n rhaid sicrhau eu bod nhw wedi gwneud popeth yn gywir.

“Ac i fod yn onest, rhaid inni danlinellu, does dim croeso iddyn nhw.”

Wrth ymateb, meddai Andy Wigmore ar ran Leave.EU: “Mae bob amser yn dda sathru cyrn gwleidyddion trydydd/pedwerydd gradd Iwerddon sydd mewn cariad â’r Undeb Ewropeaidd. Fe fydd y Gwyddelod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ymhen amser.”