Dwysáu mae’r ffraeo rhwng prif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, a’i rhagflaenydd Alex Salmond, wrth i’r naill a’r llall gyhuddo’i gilydd o ddweud celwyddau.

Yn ôl Alex Salmond, mae ei olynydd wedi torri cod gweinidogion ac o gamarwain y senedd.

Mae’n dweud hyn mewn tystiolaeth a gyflwynodd i ymchwiliad i honiadau o ymosodiadau rhywiol a wnaed yn ei erbyn, ac a arweiniodd at achos llys lle cafodd ei ddyfarnu’n ddieuog.

Roedd Nicola Sturgeon, a ddaeth yn brif weinidog ar ddiwedd 2014, wedi dweud wrth y senedd mai’r tro cyntaf iddi glywed am gwynion o gamymddwyn yn erbyn ei rhagflaenydd mewn cyfarfod gydag ef yn ei chartref ar 2 Ebrill 2018.

Fe ddaeth i’r amlwg yn yr achos llys fodd bynnag iddi gael gwybod am y cwynion mewn cyfarfod ag un o’i swyddogion bedwar diwrnod ynghynt.

“Mae’r senedd wedi cael ei chamarwain ar nifer o achlysuron ynghylch natur y cyfarfod rhyngom ar 2 Ebrill 2018,” meddai Alex Salmond.

“Roedd y Prif Weinidog wedi dweud wrth y senedd mai’r tro cyntaf iddi glywed am y cwynion yn fy erbyn oedd pan wnes i ymweld â’i chartref y diwrnod hwnnw.

“Mae hyn yn anwiredd ac mae’n torri côd y gweinidogion.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth yr Alban fod y Prif Weinidog yn glynu at yr hyn a ddywedodd wrth y senedd ac yn edrych ymlaen at ateb cwestiynau pan fydd yn ymddangos gerbron yr ymchwiliad yn ddiweddarach y mis yma.

Wrth ymateb i honiadau Alex Salmond, meddai llefarydd ar ran Nicola Sturgeon:

“Fe ddylen ni gofio bob amser bod gwreiddiau’r mater hwn yn gorwedd mewn cwynion a wnaed gan ferched am ymddygiad Alex Salmond pan oedd yn brif weinidog – ac mae wedi cydnabod agweddau o hyn.

“Nid yw’n syndod felly ei fod yn parhau i dynnu sylw oddi wrth hynny trwy geisio difwyno enw da’r Prif Weinidog a thrwy greu theorïau cynllwyn celwyddog.

“Mae’r Prif Weinidog yn canolbwyntio ar ymladd y pandemig, yn glynu at yr hyn a ddywedodd, a bydd yn rhoi sylw i’r materion hyn yn llawn pan fydd yn ymddangos gerbron y pwyllgor yn yr wythnosau nesaf.”