Mae pawb yn Lloegr yn cael eu hannog i aros adref gan eu prif swyddog meddygol, yr Athro Chris Whitty, mewn hysbyseb newydd.

Mae’n rhan o ymgyrch gyhoeddus i reoli lledaeniad Covid-19 ar ôl i 1,325 o farwolaethau o’r haint ledled y Deyrnas Unedig gael eu cyhoeddi ddoe. Dyma’r cyfanswm uchaf o farwolaethau ar un diwrnod ers cychwyn y pandemig.

“Mae Covid-19, yn enwedig y straen newydd, yn lledaenu’n gyflym ledled y wlad,” meddai’r Athro Whitty yn yr hysbyseb.

“Mae brechiadau’n rhoi gobaith clir i’r dyfodol, ond ar hyn o bryd mae’n rhaid inni i gyd aros adref, amddiffyn yr NHS ac achub bywydau.”

Mae’r ymgyrch hefyd yn pwyso ar i bawb weithredu fel pe bai’r haint arnyn nhw, gan rybuddio y gall unrhyw un ei ledaenu.