Ar ddiwedd wythnos gythryblus yn Washington, mae Donald Trump wedi cael ei wahardd rhag trydar ac yn wynebu ymgais i’w ddiarddel fel Arlywydd cyn i’w dymor ddod i ben ar 20 Ionawr.

Dywed y cwmni cyfryngau cymdeithasol Twitter eu bod wedi ei wahardd yn barhaol o’u gwefannau oherwydd y perygl iddo annog mwy o drais.

Ac yntau gyda 89 miliwn o ddilynwyr ac wedi dibynnu’n helaeth ar y cyfrwng ar hyd y blynyddoedd, mae’r gwaharddiad yn erbyd fawr i’r Arlywydd.

Yn ei drydariad olaf ddoe fe wnaeth Donald Trump gadarnhau na fydd yn mynd i seremoni urddo Joe Biden ar 20 Ionawr.

Yn ôl Twitter, roedd hyn yn “gadarnhad pellach nad oedd yr etholiad yn gyfreithlon”, ac y gallai hefyd “weithredu fel anogaeth i’r rheini a allai fod yn ystyried gweithredoedd treisgar y byddai’r seremoni urddo yn darged ‘diogel’ gan na fydd yno”.

Roedd Donald Trump hefyd wedi cyfeirio at ei gefnogwyr yn Washington fel “gwladgarwyr Americanaidd” – a oedd yn rhywbeth arall a allai gael ei ddehongli fel anogaeth i’r rheini sy’n cyflawni trais, yn ôl Twitter.

Cynnig brys o uchel-gyhuddo

Mae’r Democratiaid yn y Gyngres wedi paratoi cynnig brys i uchel-gyhuddo Donald Trump, er mwyn ei orfodi allan o’i swydd yn sgil pryderon y gallai wneud mwy fyth o ddifrod.

“Mae’n rhaid inni weithredu,” meddai Llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr, Nancy Pelosi. “Allai’r arlywydd gwallgof ddim bod yn fwy peryglus.”

Mae hi hefyd wedi siarad gydag uchel-swyddogion milwrol i drafod ffyrdd o rwystro’r arlywydd rhag cychwyn rhyfel niwclear yn ei ddyddiau olaf.

Mae disgwyl i’r cynnig uchel-gyhuddiad gael ei gyflwyno ddydd Llun, gyda phleidlais mor gynnar â dydd Mercher.

Pe bai’n cael ei uchel-gyhuddo gan y Ty a’i gollfarnu gan y Senedd, gallai hynny olygu ei wahardd rhag ceisio am yr arlywyddiaeth yn 2024 na dal swydd gyhoeddus eto.

Ymateb Joe Biden

Mae’r darpar-arlywydd Joe Biden wedi croesawu cyhoeddiad Donald Trump na fydd yn dod i’r seremoni urddo, gan ailadrodd ei farn nad yw Donald Trump “yn ffit i fod yn arlywydd”.

“Mae’n un o’r arlywyddion mwyaf anobeithiol yn hanes Unol Daleithiau America,” meddai.

Mae’n ymddangos fodd bynnag fod Joe Biden yn llugoer ar y mater o uchel-gyhyddo’r arlywydd.

“Pe bai chwe mis i fynd, fe ddylen ni fod yn gwneud popeth i’w gael allan o’i swydd,” meddai. “Ei uchel-gyhuddo eto, ceisio gweithredu’r 25ain Gwelliant, beth bynnag sydd ei angen.

“Ond dw i’n canolbwyntio’n awr ar i ni gymryd rheolaeth fel arlywydd ac is-arlywydd ar yr 20fed a chael symud ein agenda ymlaen cyn gynted ag y gallwn ni”