Mae Heddlu’r De wedi rhybuddio ysgolion a rhieni am beryglon ymosodiadau seiber yn y cyfnod o ddysgu o bell, wrth i blant dderbyn eu haddysg ar liniaduron.
Yn ôl yr heddlu, mae ysgolion a disgyblion yn dargedau poblogaidd i seiber-droseddwyr am eu bod yn storio symiau mawr o ddata gwerthfawr.
Yn wir, mae’r sector addysg wedi wynebu nifer cynyddol o ymosodiadau seiber ers dechrau pandemig y coronafeirws, a chyhoeddodd y Ganolfan Seiber-ddiogelwch Genedlaethol (NCSC) rybudd i’r sector gyfan ym mis Medi 2020.
Mae canllawiau diweddaraf yr NCSC yn annog unigolion sy’n gweithio ym maes addysg i sicrhau bod eu cyfrineiriau yn gryf ac yn gofiadwy, eu bod yn gallu adnabod e-byst maleisus neu neges destun dwyllodrus, a’u bod yn ofalus wrth symud data drwy ddefnyddio USB neu ddyfais allanol arall.
Bydd disgyblion a rhieni yn cael llawer mwy o e-byst gan ysgolion a staff addysgu yn y cyfnod clo, yn amrywio o gynlluniau gwersi a thaflenni gwaith cartref, hyd at ddolenni i lwyfannau dysgu ar-lein.
Gall seiber-droseddwyr greu e-byst a all ymddangos yn ddilys ar yr olwg gyntaf, yn ogystal â chreu safleoedd sy’n ymddangos yn rhestr chwilio porwr y we ochr yn ochr â’r darparwr meddalwedd swyddogol.
Mae’n bosibl y bydd disgyblion yn lawrlwytho o un o’r safleoedd ffug hyn ar ddamwain, ac yn agor ffeil sy’n llawn maleiswedd.
“Gall gwybod beth rydych yn cadw llygad amdano wneud byd o wahaniaeth”
“Gall bod yn ymwybodol o’r hyn i gadw llygad amdano wneud byd o wahaniaeth,” meddai’r Ditectif Sarjant Symon Kendall, arweinydd Uned Seiber Ddiogelu yr NCSC.
“Er enghraifft, gellir defnyddio cliwiau penodol i adnabod e-byst gwe-rwydo yn aml. Bydd llawer ohonynt yn cyfeirio atoch yn gyffredinol, megis ‘annwyl ddisgybl’, yn hytrach nac yn bersonol.
“Pan fydd ysgolion yn gofyn i ddisgyblion ddefnyddio neu lawrlwytho meddalwedd neu gymwysiadau, dylent geisio ddarparu dolenni URL sy’n arwain at y darparwr dilys yn uniongyrchol neu eu cyfarwyddo at storfa cymwysiadau dibynadwy.
“Yn y pen draw, os bydd rhywbeth amheus am e-bost neu wefan, dylid annog rhieni a disgyblion i gysylltu â’r ysgol neu’r athro yn uniongyrchol i gadarnhau a yw’n ddiogel.”