Mae ci heddlu a ddaeth o hyd i fam goll a’i baban, a hynny ar ei shifft gyntaf yn y gwaith, wedi cael gwobr genedlaethol.

Enillodd Max, sy’n un o gŵn Heddlu Dyfed-Powys, wobr ‘Arwr Anifeiliaid’ y Daily Mirror am ei sgiliau darganfod pobol coll.

Roedd Max a’i reolwr, y cwnstabl Peter Lloyd, ar eu shifft gyntaf gyda’i gilydd ym mis Awst pan ymunon nhw â’r ymdrech i chwilio am y fam a’i baban blwydd oed.

“Roedden nhw wedi bod ar goll ers peth amser felly roedd pryder mawr,” meddai’r cwnstabl Peter Lloyd.

“Roedd babi un oed ganddi, doedd hi ddim yn ddiwrnod cynnes ac yn y nos roedd y tymheredd wedi gostwng yn sylweddol.

“Roedd hi wedi bod allan drwy’r nos gyda’r plentyn.”

Ar ôl 90 munud o chwilio, arweiniodd Max ei reolwr at erchwyn llethr serth, lle’r oedd y fam yn chwifio ei breichiau ac yn galw am help. Roedd y fam a’r baban yn oer ac wedi blino, ond yn ddigon iach fel arall.

“Amhrisiadwy”

“Mae Max wedi cael ei hyfforddi i chwilio mewn ardaloedd agored. Buom yn chwilio pob math o dir, llethrau, cymoedd, llynnoedd,” meddai Peter Lloyd.

“Parhaodd Max i ganolbwyntio ac roedd yn amhrisiadwy pan ymatebodd i’r alwad am help a arweiniodd at leoli’r fam a’r baban.

“Hoffwn ddiolch i bawb a bleidleisiodd dros enwebu Max ar gyfer y wobr hon, ac i’r beirniaid a benderfynodd mai ef ddylai ei derbyn hi. Mae’n falch iawn – fel fi.”