Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AoS, i “fynegi siom a syndod” ei bod wedi cyhoeddi addasiad dros dro i’r Côd Trefniadaeth Ysgolion.
Mae’r Côd Trefniadaeth Ysgolion yn gosod gofynion y mae angen i gyrff perthnasol (Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a hyrwyddwyr eraill) weithredu yn unol â hwy.
Mae’r Côd yn nodi fod rhaid i’r chwe wythnos o ymgynghoriad dan sylw gynnwys o leiaf 20 diwrnod llawn o ysgol.
Ddoe (Ionawr 7), cyhuddodd Cymdeithas yr Iaith, Gyngor Gwynedd o dorri’r Côd Trefniadaeth Ysgolion gan beidio rhoi amser digonol i ymgynghoriad. Yn ôl y Gymdeithas, gan fod ysgolion ar gau am o leiaf rhan o’r cyfnod ymgynghori – sy’n rhedeg o Ionawr 5 hyd at Chwefror 16 – fe dorrwyd y Côd, gan fethu â darparu amser ymgynghori digonol.
Hysbysiad Addasu
Ar yr un diwrnod, cyhoeddwyd ‘Hysbysiad Addasu’r Cod Trefniadaeth Ysgolion‘ yn addasu’r gofynion statudol penodol yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion dros dro o 8 Ionawr 2021 tan 31 Ionawr 2021 i olygu bod “’diwrnod ysgol’ yn cynnwys diwrnod pan fyddai sesiwn ysgol wedi ei chynnal pe na bai unrhyw gyfyngiad ar bresenoldeb disgyblion yn yr ysgol”.
Mae’r Hysbysiad yn nodi:
Mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 38 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“y Cod”) wedi ei addasu fel a ganlyn.
Mae paragraff 3.4 (dogfen ymgynghori) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriadau at “diwrnod ysgol” yn cynnwys diwrnod pan fyddai sesiwn ysgol wedi ei chynnal pe na bai unrhyw gyfyngiad ar bresenoldeb disgyblion yn yr ysgol mewn cysylltiad â mynychder y coronafeirws.
Mae’r dyletswyddau a osodir ar berson gan baragraff 3.5 (ymgynghori â phlant a phobl ifanc) i’w trin fel pe baent wedi eu cyflawni os yw’r person wedi gwneud ymdrechion rhesymol i gyflawni’r ddyletswydd.
Mae paragraff 4.1 (sut y cyhoeddir cynigion) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriadau at “diwrnod ysgol” yn cynnwys diwrnod pan fyddai sesiwn ysgol wedi ei chynnal pe na bai unrhyw gyfyngiad ar bresenoldeb disgyblion yn yr ysgol mewn cysylltiad â mynychder y coronafeirws.
Nodir yn yr hysbysiad hefyd fod “Gweinidogion Cymru yn ystyried bod dyroddi’r hysbysiad hwn yn gam gweithredu priodol a chymesur o dan yr holl amgylchiadau sy’n ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad y coronafeirws.”
“Yr ydym yn siomedig iawn eich bod chwi wedi dilyn y llwybr hwn”
Yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiad addasu dros dro, mae Cymdeithas yr iaith wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i fynegi “siom a syndod”.
Yn ei lythyr, mae Ffred Ffransis, ar ran Grwp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith, yn nodi bod y Gweinidog Addysg yn “pentyrru’r ods yn erbyn rhieni a llywodraethwyr unrhyw ysgol lle bydd ymgynghoriad y tymor hwn ar gynnig i’w chau”
Mae’r llythyr yn dweud fod “cam mor ddifrifol ag amddifadu cymuned o’u hysgol, a holl sgil-effeithiau addysgol a chymdeithasol hyn, yn gallu digwydd heb i’r gymuned gael cyfle teg hyd yn oed i gyflwyno eu hachos”.
“Nid yn unig fod yr ysgolion eu hunain ar gau, ac nad oes modd i rieni na llywodraethwyr gynnal cyfarfodydd na hyd yn oed weld ei gilydd wrth giât ysgol, ond mae’r llywodraeth hefyd yn eu hannog oll i aros adre.
“Golygir felly nad oes unrhyw fodd i bobl weld ei gilydd hyd yn oed o bellter yn yr awyr agored i drafod na threfnu. Mae gan Aelodau Senedd ac Awdurdodau Lleol swyddogion Technoleg Gwybodaeth i drefnu cyfarfodydd rhithiol trwy “Teams” neu “Zoom”.
“Mae’n gwbl afrealistig disgwyl fod gan bentrefwyr oll yr un gallu i drefnu cyfarfodydd rhithiol i lunio eu hymgyrch i amddiffyn eu hysgol.
“Mae hyn i gyd yn ychwanegu at argraff pobl mai ymarferiad gwag, fel arfer, yw ymgynghoriadau. Yr ydym yn siomedig iawn eich bod chwi wedi dilyn y llwybr hwn.”