Mae Plaid Cymru wedi atal aelodaeth un o’i chynghorwyr ar Gyngor Gwynedd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i sylwadau yr honnir eu bod yn ffug ynglŷn â Covid-19 a rannwyd ar gyfryngau cymdeithasol.

Daw hyn wedi adroddiadau ei fod wedi cael ei gyfeirio at Swyddfa’r Ombwdsmon am rannu’r negeseuon.

Dywedodd y Cynghorydd Sir dros Nefyn, Gruffydd Williams, ei fod yn teimlo dyletswydd i rannu gwybodaeth “dylai pobl gael”.

Mae’r cyn AS, Betty Williams, a gollodd ei gŵr i’r salwch, wedi beirniadu ymddygiad y cynghorydd Plaid Cymru.

Yn ôl Plaid Cymru, “Nid yw’r sylwadau yn adlewyrchu safbwynt” y Blaid.

Y sylwadau

Mae’r Cynghorydd Gruffydd Williams wedi rhannu negeseuon ar ei dudalen Facebook sy’n honni nad yw Covid-19 yn bodoli a bod mesurau fel y cyfnod clo, a’r brechlyn yn ddiangen.

Mae’r negeseuon sydd wedi ei rhannu gan y cynghorydd wedi wynebu ymdrechion i’w tynnu oddi ar wefannau cymdeithasol, ar ôl iddyn nhw gael eu gwirio fel negeseuon ffug gan wirwyr annibynnol.

Y Cynghorydd Siôn Jones

Yn ôl Cynghorydd sir Gwynedd dros Bethel, Sion Jones, mae’r ymddygiad yma yn “anghyfrifol”.

Dywedodd y cyn-AS, Betty Williams, “dydy’r dyn yma ddim yn ffit i fod yn gynghorydd”.

Ymateb

Wrth ymateb, eglurodd Cyng. Williams wrth Newyddion S4C fod “na ormod o gwestiynau heb eu hateb” gan fynd ymlaen i fynegi pryderon fod pobl yn “heidio am y brechiadau didrwydded hyn ar sail propaganda a ffug ystadegau”.

Mae brechiadau Pfizer/BioNTech ag Oxford-AstraZeneca wedi cael eu cymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) ar ran Llywodraeth Prydain.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd “byddai unrhyw gŵyn am ymddygiad aelodau etholedig yn fater i Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru”.

Ymateb Plaid Cymru.

Mewn datganiad, dywedodd Plaid Cymru fod angen “gochel rhag rhannu unrhyw negesuon sydd yn peryglu iechyd cyhoeddus”

“Mae cyfrifoldeb ar bawb i warchod y gwasanaeth iechyd ac mae gan gynrychiolwyr etholedig rôl allweddol i’w chwarae yn hynny o beth.

“Ers dechrau’r pandemig bu holl sylw Plaid Cymru ar arbed bywydau a gwarchod swyddi, ac mae argaeledd y brechlyn yn rhoi gobaith i ni bod dyddiau gwell ar y gorwel.

“Does dim lle i negeseuon ffug ym Mhlaid Cymru nac mewn cymdeithas yn ehangach ac yn sgil hynny bydd aelodaeth y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cael ei atal hyd nes y bydd ymchwiliad i’r mater yn dirwyn i ben.”