Mae Cymdeithas yr iaith wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o dorri’r Côd Trefniadaeth Ysgolion gan beidio rhoi amser digonol i ymgynghoriad ar gau ysgol.
Daw hyn ar ôl i Gabinet Cyngor Gwynedd gyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus ar gau Ysgol Abersoch.
Penderfynodd Cabinet y Cyngor ar Fedi 15 y llynedd, ac yna ar Dachwedd 3, i gefnogi’r argymhelliad i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i gau Ysgol Abersoch ar Awst 31, 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o Fedi 1 2021.
Mae’r Côd Trefniadaeth Ysgolion yn gosod gofynion y mae angen i gyrff perthnasol (Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a hyrwyddwyr eraill) weithredu yn unol â hwy.
Mae’r Côd yn nodi fod rhaid i’r chwe wythnos o ymgynghoriad dan sylw gynnwys o leiaf 20 diwrnod llawn o ysgol.
Ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith, gan fod ysgolion ar gau am o leiaf rhan o’r cyfnod ymgynghori – sy’n rhedeg o Ionawr 5 hyd at Chwefror 16 – mae’r cyngor wedi torri’r Côd, gan fethu â darparu amser ymgynghori digonol.
“Nid oes modd cynnal cyfarfodydd cyhoeddus”
“Bydd yr ysgol hon ynghyd â phob ysgol arall ar gau dros y pythefnos nesaf o ganlyniad i’r argyfwng iechyd – ac mae’n ddigon posib y bydd hynny’n cael ei ymestyn,” meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.
“Golyga hyn felly na fydd digon o amser i bobl ymateb i’r ymgynghoriad a bod y Cabinet Cyngor Gwynedd wedi torri’r Côd Trefniadaeth Ysgolion.
“Nid yn unig fod y penderfyniad hwn yn mynd yn groes i’r côd yn llythrennol, ond drwy gynnal yr ymgynghoriad yn ystod cyfnod clo mewn pandemig iechyd byd-eang mae’r penderfyniad hefyd yn mynd yn groes i’w holl ysbryd.
“Nid oes modd cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ac mae sylw addysgwyr a rhieni ar bethau argyfyngus eraill ar hyn bryd; mae’r penderfyniad i gyhoeddi’r ymgynghoriad o dan yr amgylchiadau presennol hyn yn golygu nad oes unrhyw dryloywder ynghlwm â’r broses.”
“Yr ysgol yw’r gobaith am ail-Gymreigio”
Ychwanegodd Toni Schiavone: “Yr ysgol yn Abersoch yw canolfan Gymraeg y pentref a’r gobaith am ail-Gymreigio.
“Ni ddylid rhuthro at gau heb fod cyfle teg i drafod yr oblygiadau – byddai methiant i wneud hyn yn gwbl fyrbwyll ac anghyfrifol.
“Gobeithiwn y bydd Awdurdodau eraill hefyd yn ystyried cyfnodau ymgynghoriadau yn ofalus iawn ar ddyfodol ysgolion pentrefol Cymraeg eraill sydd tan fygythiad – fel Talwrn yn Ynys Môn, a Mynydd-y-Garreg yn Sir Gâr.”
Ymateb Cyngor Gwynedd
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd wrth golwg360:
“Nid ar chwarae bach mae y Cyngor yn ystyried dyfodol ysgol a chynnal ymgynghoriad statudol, ond mae dyletswydd ar yr awdurdod i sicrhau’r addysg a phrofiadau gorau i holl blant Gwynedd.
“Rydym yn hyderus fod y broses ymgynghori ynghylch dyfodol Ysgol Abersoch a gyhoeddwyd ar 5 Ionawr 2021 yn cael ei chynnal yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, ac yn benodol yn unol â’r newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf y llynedd mewn ymateb i’r pandemig Covid-19.
“Rydym hefyd yn bwriadu cynnal sesiwn ‘galw heibio’ rhithwir ar gyfer rhieni, staff a llywodraethwyr Ysgol Abersoch yn yr wythnosau nesaf er mwyn rhoi cyfle iddynt holi unrhyw gwestiynau am y broses ymgynghori statudol.
“Ar ddiwedd y broses, bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu hystyried cyn cyflwyno adroddiad pellach i Gabinet y Cyngor a fydd yn adrodd ar yr ymatebion a dderbyniwyd a phenderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r cynnig ai peidio.”