Mae yna “bryder mawr” am y diffyg traffig i borthladd Caergybi, yn ôl cynghorydd lleol.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, gyda chyfnod pontio Brexit yn dod i ben, roedd yna gryn ddyfalu y byddai 2021 yn dechrau â phroblemau mawr ym mhorthladdoedd y Deyrnas Unedig.

Gyda rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd yn darfod, roedd rhai yn darogan ciwiau hir ger trefi fel Caergybi, wrth i waith papur beri oediadau hir i yrwyr lorïau.

Ond yn ôl Bob Llewelyn, un o gynrychiolwyr y dref ar Gyngor Ynys Môn, mae’r porthladd yn dawel fel y bedd, er ei fod “fel arfer yn llawn”.

“Rydym wedi paratoi i gael mwy o draffig – dwbl y traffig – ond does dim byd wedi digwydd!” meddai.

“Mae’r traffig yn mynd trwadd yn syth. Does dim byd yn disgwyl i fynd trwadd. Mae’n bryder mawr, a dweud y gwir. Roedd pawb yn ofn y byddai hold ups a phob peth ar lôn yr A55.

“Maen nhw wedi rhoi golau a’r côns yma reit ar hyd y lonydd, i’w helpu nhw. Ond does dim traffig wedi dod drosodd ata fo.

“Ella bod hwn yn amser distaw ar ôl ‘Dolig. Ac ella wneith betha’ bigo fyny eto.”

Traffig

Mae Llywodraeth Cymru yn dyfalu mai yng nghanol mis Ionawr bydd traffig yn cynyddu yn y porthladd – nid ar ddechrau’r mis.

Ac mae wedi gosod toiledau, conau, a golau ar hyd ffordd sydd yn arwain at y porthladd er mwyn paratoi am unrhyw gynnydd posib.

Mae traffig yng Nghaergybi wedi disgyn i draean capasiti normal, yn ôl pennaeth Stena (y cwmni fferïau), yn y Deyrnas Unedig.

Nid yw Ian Davies, Pennaeth porthladdoedd Stena yn y Deyrnas Unedig, yn besimistaidd am y sefyllfa, yn ôl adroddiadau, ac mae’n rhagweld y bydd y traffig yn dychwelyd i Gaergybi.

Mae hefyd wedi dweud bod mwy o lorïau yn manteisio ar eu gwasanaeth fferi Ffrainc-Iwerddon – gan osgoi porthladdoedd Prydain.

Mae Bob Llewelyn yn pryderu am y gystadleuaeth yma – rhannodd ei bryderon fis diwetha’ – ac mae hefyd yn gofidio y bydd porthladd Lerpwl yn cystadlu am draffig lorïau â Chaergybi.

Gall Brexit gael effaith “ofnadwy” ar borthladd Caergybi, meddai cynghorydd

Pryderon y bydd cwmnïau yn masnachu ag Iwerddon yn uniongyrchol