“Byddai’n ddrwg ofnadwy” pe bai Brexit yn cael effaith ar weithgarwch porthladd Caergybi, yn ôl cynghorydd lleol.
Mae adroddiadau’n awgrymu bod trafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn dirwyn i ben, gyda’r ddwy ochr yn anghydweld o hyd.
Ac os na fydd y trafodaethau yn dwyn ffrwyth, a bod Brexit yn mynd rhagddo heb ddêl, mae cryn ddyfalu y bydd hynny’n peri trafferthion ym mhorthladdoedd Prydain.
Heb gytundeb byddai’r fasnach lefn â gweddill Ewrop yn dod i stop sydyn, a gall hynny olygu ciwiau o lorïau mewn porthladdoedd, a gwledydd yn dewis osgoi Prydain wrth fasnachu ag Iwerddon.
Mae’n debyg bod dros 1,000 yn cael eu cyflogi ym mhorthladd Caergybi, ac mae Bob Llewelyn Jones, un o gynrychiolwyr y dref ar Gyngor Ynys Môn, yn gofidio am ddyfodol y swyddi rheiny.
“Ella bydd y traffig sy’n mynd trwy Gaergybi yn dod o hyd i [lwybrau] newydd. Allan nhw fynd yn syth o Sbaen, neu o Ffrainc, i lawr i Cork,” meddai wrth golwg360.
“Ac mae yna drefniadau i ddod â llongau o Rotterdam i Ddulyn. Ac mae yna rhai yn mynd rŵan. Rydan ni’n poeni am hwnna a dweud y gwir.
“Beth ydy’r dyfodol, a sut mae hwnna am gael effaith ar Gaergybi ei hun? Rydan ni wedi cael [llongau’n mynd a dod] yng Nghaergybi ers amser maith.
“Os buasa’ hwn yn newid, a bod pobol sy’n cael eu cyflogi yn cael redundancy byddai’n ddrwg ofnadwy a dweud y gwir. Dw i yn poeni amdano fo. Mae lot o bobol yn poeni a dweud y gwir.”
Porthladdoedd rhydd
Dan y senario gwaetha’ mae Llywodraeth San Steffan yn dyfalu y byddai’n rhaid rhwystro 40-70% o gerbydau nwyddau (HGVs) mewn porthladdoedd oherwydd diffyg dogfennau cywir.
Mae’r cwmni o Ddenmarc, DFDS (Det Forenede Dampskibs-Selskab) yn bwriadu tanio llwybr masnach rhwng Dunkirk, Ffrainc; a Rosslare, Gweriniaeth Iwerddon; o Ionawr 2 ymlaen.
Mae Boris Johnson, y Prif Weinidog yn San Steffan, wedi awgrymu y gallai ‘porthladdoedd rhydd’ gael eu sefydlu yn y Deyrnas Unedig yn sgil Brexit.
Byddai’r porthladdoedd yma ddim yn codi trethi – neu’n codi ychydig iawn – gan annog busnesau i fanteisio ar y porthladdoedd rheiny.
Byddai’r fath statws yn “beth da” i Gaergybi, yn ôl Bob Llewelyn Jones, pe bai’n dod yn realiti.