Mae llofruddiaeth gyrrwr tacsi yn ne Cymru yn 1979 sydd heb ei ddatrys yn cael ei adolygu gan Heddlu De Cymru.

Y gobaith yw y bydd datblygiadau mewn galluoedd fforensig yn arwain at ddatrys y dirgelwch bedwar degawd yn ddiweddarach.

Mae Uned Adolygu Troseddau Arbenigol Heddlu De Cymru unwaith eto yn archwilio achos John ‘Jack’ Armstrong, dyn 58 oed a gafodd ei lofruddio ym mis Hydref 1979 ar ôl iddo gasglu cwsmer o Gaerdydd yn ei dacsi.

Ar Hydref 5, cysylltodd Jack Armstrong ar y radio i gadarnhau ei fod wedi casglu cwsmer o dafarn yn y Tyllgoed yng Nghaerdydd, ond ni chafodd ei weld yn fyw eto.

Daeth yr heddlu o hyd i’w dacsi yn ddiweddarach y noson honno yn Lôn Treoes, ger Ystâd Ddiwydiannol Waterton ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Tri diwrnod yn ddiweddarach cafwyd hyd i’w gorff tua 11 milltir i ffwrdd. Roedd wedi dioddef anafiadau difrifol i’w ben.

“Trylwyr”

Er gwaethaf ymholiadau helaeth ar y pryd, a welodd gannoedd o ddatganiadau’n cael eu cymryd a’u harchwilio, ni chanfuwyd llofrudd Jack Armstrong erioed.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Patrick Catto, pennaeth yr uned adolygu, ei fod yn obeithiol y gallai’r adolygiad arwain at gyfleoedd ymchwilio newydd.

“Nid oes unrhyw achos byth ar gau ac rydym yn parhau i fod yn benderfynol o adolygu achosion sydd heb eu datrys o bryd i’w gilydd yn y gobaith y bydd datblygiadau mewn gwyddorau fforensig a thechnoleg yn rhoi trywydd ymholi newydd i ni.

“Roedd ymchwiliad 1979 yn drylwyr ac nid yw’r adolygiad hwn yn adlewyrchiad ar ein cydweithwyr a fu’n gysylltiedig ar y pryd.

“Fodd bynnag, mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn manteisio ar bob datblygiad gwyddonol sydd ar gael i ni er mwyn ceisio sicrhau’r datblygiadau y mae arnom eu hangen.

“Os yw’r llofrudd yn dal yn fyw, maen nhw wedi bod yn byw gyda’r wybodaeth am yr hyn wnaethon nhw ers dros ddeugain mlynedd.

“Yn ogystal, mae’n debygol bod rhywun allan yna’n gwybod pwy wnaeth hyn, ac mae teyrngarwch pobol yn newid.

“Bydd cadw cyfrinach o’r fath wedi bod yn faich trwm – mae’n bryd gwneud y peth iawn a dod ymlaen.”