Mae ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Antonio Guterres wedi galw am sicrhau bod brechlynnau Covid-19 ar gael i bawb.

Dywedodd Antonio Guterres fod pobol mewn gwledydd sy’n datblygu ledled y byd yn pendroni a fyddan nhw’n cael eu brechu wrth iddyn nhw wylio rhai gwledydd cyfoethog yn paratoi ar gyfer cyflwyno brechiadau coronafeirws.

Mae Antonio Guterres wedi galw dro ar ôl tro am drin brechlynnau er “lles cyhoeddus byd-eang” sydd ar gael i bawb yn fyd-eang.

Ddydd Mercher (Rhagfyr 9), apeliodd am £3.15 biliwn yn ystod y ddau fis nesaf ar gyfer rhaglen Sefydliad Iechyd y Byd i brynu a darparu brechlynnau firysau i bobl dlotaf y byd.

Mae’r Deyrnas Unedig a Rwsia eisoes yn brechu pobol, ac yn yr Unol Daleithiau, gallai’r brechlyn Pfizer gael ei gymeradwyo yn y dyddiau nesaf.

Cafodd y brechlyn ei gymeradwyo gan Ganada ddydd Mercher (Rhagfyr 9).

Dywedodd Antonio Guterres: “Mae’r hyn rydyn ni’n ei weld heddiw yn ymdrech enfawr gan sawl gwlad er mwyn sicrhau brechlynnau i’w poblogaethau eu hunain.”