Mae’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno i wneud penderfyniad ar gytundeb masnach erbyn dydd Sul (Rhagfyr 13), ar ôl i Stryd Downing rybuddio bod y gwahaniaethau rhwng y ddwy ochr yn parhau’n “sylweddol”.
Bu’r Prif Weinidog Boris Johnson a llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, yn cynnal trafodaethau dros ginio ym Mrwsel nos Fercher (Rhagfyr 9), ond mae gwahaniaethau allweddol yn dal i fodoli.
Cytunodd yr arweinwyr i wneud “penderfyniad cadarn” am ddyfodol y trafodaethau erbyn diwedd y penwythnos, a gofynnodd i’w prif drafodwyr, yr Arglwydd Frost a Michel Barnier, ailymgynnull yn y ddinas ddydd Iau (Rhagfyr 10).
Ond mewn datganiad yn dilyn tair awr o ginio a thrafodaethau ym Mrwsel, dywedodd ffynhonnell Rhif 10 nad oedd yn glir a oes modd pontio’r gwahaniaethau rhwng y ddwy ochr.
‘Trafodaeth onest’
Dywedodd: “Cafodd y Prif Weinidog ac Ursula von der Leyen drafodaeth onest am y rhwystrau sylweddol sy’n parhau yn y trafodaethau.
“Mae gwahaniaethau mawr iawn yn parhau rhwng y ddwy ochr ac mae’n dal yn aneglur a ellir pontio’r rhain.
“Cytunodd y Prif Weinidog ac Ursula von der Leyen i gynnal trafodaethau pellach dros y dyddiau nesaf rhwng eu timau negodi.
“Maen nhw wedi cytuno y dylid gwneud penderfyniad cadarn erbyn dydd Sul am ddyfodol y trafodaethau.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Stryd Downing bod “rhaid i unrhyw gytundeb barchu annibyniaeth a sofraniaeth y Deyrnas Unedig”.
“Materion hanfodol”
Dywedodd Ursula von der Leyen y dylai’r timau trafod “ailymgynnull ar unwaith” i geisio datrys y “materion hanfodol” ond pwysleisiodd fod safiad y ddwy ochr yn parhau’n “bell ar wahân”.
Dywedodd mewn datganiad: “Cawsom drafodaeth fywiog a diddorol ar y sefyllfa o ran y rhestr o faterion a oedd yn weddill.
“Cawsom ddealltwriaeth glir o safbwyntiau ein gilydd. Maent yn parhau’n bell ar wahân.
“Cytunwyd y dylai’r timau ailymgynnull ar unwaith i geisio datrys y materion hanfodol hyn. Byddwn yn dod i benderfyniad erbyn diwedd y penwythnos.”
Y gobaith oedd y gallai cynnydd ar lefel wleidyddol rhwng Boris Johnson ac Ursula von der Leyen baratoi’r ffordd ar gyfer mwy o drafodaethau rhwng yr Arglwydd Frost a Michel Barnier.
Ond awgrymodd y datganiadau o’r ddwy ochr, er y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal, nad oedd symudiad sylweddol wedi’i wneud ar y materion allweddol.
Trafododd Boris Johnson ac Ursula von der Leyen y cytundeb masnach bosibl dros ginio tri chwrs.
Ymhlith y gwahaniaethau eraill sy’n weddill mae’r mesurau ‘chwarae teg’ sydd â’r nod o atal y Deyrnas Unedig rhag mynd yn groes i’r Undeb Ewropeaidd o ran cymorthdaliadau’r wladwriaeth, a’r ffordd y byddai unrhyw gytundeb yn cael ei lywodraethu.
Cyn gadael Llundain, dywedodd Boris Johnson wrth Aelodau Seneddol na allai unrhyw brif weinidog dderbyn y gofynion y mae’r Undeb Ewropeaidd yn eu gwneud, er ei fod yn mynnu bod bargen fasnach yn “dal yn bosibl”.
Daeth eu cyfarfod cyn uwchgynhadledd y Cyngor Ewropeaidd ddydd Iau (Rhagfyr 9) lle mae disgwyl i Ursula von der Leyen drafod y sefyllfa gydag arweinwyr y 27 o wledydd sy’n aelodau o’r UE.
Dim ond tair wythnos sy’n weddill nes i’r cyfnod trosglwyddo presennol ddod i ben.