Roedd economi’r Deyrnas Unedig wedi tyfu 0.4% yn unig ym mis Hydref wrth i’r adferiad barhau i arafu.

Mae’rr economi yn parhau’n llai nag oedd cyn dechrau’r pandemig, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae’r Deyrnas Unedig yn dal i geisio adfer ei hun wedi’r gostyngiad sylweddol yn dilyn y cyfnod clo cyntaf. Ond mae disgwyl i’r economi grebachu eto ym mis Tachwedd ar ôl i’r ail gyfnod clo yn Lloegr orfodi cwmnïau i gau.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae rhai arwyddion o dwf ym mis Hydref ond mae’r economi’n parhau 8% yn llai nag oedd cyn y pandemig.

Mis Hydref oedd y chweched mis yn olynol lle’r oedd twf yn y Deyrnas Unedig ar ôl i’r economi grebachu 19.5% ym mis Ebrill yn ystod y cyfnod clo cyntaf.