Mae’r Unol Daleithiau wedi cofnodi mwy na 3,100 o farwolaethau mewn un diwrnod, y ffigwr uchaf ers dechrau pandemig y coronafeirws.

Roedd nifer y bobl oedd yn cael triniaeth yn yr ysbyty am Covid-19 hefyd wedi cyrraedd 106,000 ddydd Mercher (Rhagfyr 9), y nifer uchaf ers dechrau’r pandemig.

Daw’r ffigurau diweddaraf wrth i Brydain ddechrau rhoi’r brechlyn Pfizer/BioNTech i weithwyr allweddol a phobl dros 80 oed. Cafodd y brechlyn sêl bendith yng Nghanada ddoe.

Fe fydd panel ymgynghorol yn cwrdd heddiw (Dydd Iau, Rhagfyr 10) i benderfynu a ddylai’r Weinyddiaeth Fwyd a Chyffuriau gymeradwyo’r brechlyn yn yr Unol Daleithiau.

Serch hynny mae arolygon barn yn awgrymu na fyddai 33% i 47% o bobl gafodd eu holi yn debygol o gael eu brechu.