Mae Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi y gall ysgolion lleol nawr gau ddau ddiwrnod yn gynt cyn diwedd y tymor yn dilyn cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws yn yr ardal.

Fe fydd ysgolion yn cau ddydd Mercher (Rhagfyr 16), a y bydd disgyblion yn cael gwersi ar-lein gartref ar Ragfyr 17 a 18.

Daw hyn yn dilyn cyfarfodydd diweddaraf gyda phenaethiaid a llywodraethwyr.

Bydd y dyddiad newydd yn berthnasol i bob ysgol, gan gynnwys meithrinfeydd, ar wahân i Heronsbridge ac Ysgol Bryn Castell a fydd ill dau’n cau yn ôl y bwriad ar Ragfyr 18.

Bydd pob ysgol hefyd yn gallu penderfynu a oes angen iddynt gau cyn Rhagfyr 16 os bydd angen er mwyn cadw disgyblion, athrawon a staff yn ddiogel.

“Wythnos lawn o seibiant”

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: “Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf ac yn dilyn sgyrsiau gyda phenaethiaid lleol a llywodraethwyr ysgol, rydym wedi cytuno mai diwrnod olaf y tymor fydd  Rhagfyr 16.

“Gyda niferoedd mawr o ddisgyblion eisoes yn hunanynysu mewn bron i 59 y cant o ysgolion lleol, rydym am sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng sicrhau y gall plant elwa o fod yn yr ysgol, eu cadw’n ddiogel a cheisio osgoi achosi problemau gofal plant ychwanegol i rieni a gofalwyr.

“Ar yr un pryd, mae’n rhaid i ni hefyd fodloni gofynion cenedlaethol Llywodraeth Cymru, felly bwriad y dyddiad newydd hwn yw rhoi wythnos lawn o seibiant i ddisgyblion cyn i ŵyl y Nadolig ddechrau a sicrhau bod diogelwch plant lleol yn gallu parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni.

“Gydag achosion cadarnhaol o coronafeirws bellach ym mhob un o’n hardaloedd, roedd pob pennaeth o blaid dod â’r tymor ysgol i ben yn gynt na’r bwriad gwreiddiol.

“Yn seiliedig ar asesiadau risg sydd wedi’u diffinio’n glir, bydd penaethiaid a chyrff llywodraethu hefyd yn gallu penderfynu a oes angen i ysgol unigol orffen cyn  Rhagfyr 16 er mwyn rheoli unrhyw amgylchiadau penodol a allai godi.”

Mae trefniadau ar waith o hyd i fyfyrwyr chweched dosbarth orffen mynychu’r ysgol yn gorfforol ar Ragfyr 11, ac i bob myfyriwr Blwyddyn 11 a Blwyddyn 13 dderbyn dysgu ar-lein yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar Ragfyr 14.