Mae’r coronafeirws wedi amlygu “pa mor fregus yw ein system fwyd ar ei ffurf bresennol” yn ôl ymgyrchwyr a gwleidyddion sy’n galw am sefydlu un polisi bwyd cenedlaethol, yn hytrach na nifer o strategaethau unigol.
Maen nhw am weld Cymru yn tyfu mwy o ffrwythau a llysiau, ac maen nhw’n codi cwestiynau am yr angen i amaethwyr ganolbwyntio gymaint ar ffermio defaid a gwartheg.