Cymro Cymraeg o Gaergybi sy’n gyfrifol am ddarparu lluniau teledu o bencadlys Arlywydd America i wylwyr ledled y byd.

Yma mae Maxine Hughes, Cymraes sy’n newyddiadura yn Washington, yn adrodd ei hanes…

Cymro Cymraeg yw Prif Swyddog Gweithredol un o’r cwmnïau darlledu sydd â’r olygfa orau o’r Tŷ Gwyn yn Washington gyfan. Ond Farsi – nid Cymraeg – yw iaith y rhaglen y mae e’n ei chyfarwyddo.

Yn wreiddiol o Gaergybi yn Sir Fôn, mae Wesley Dodd wedi gweithio i’r BBC yng Nghaerdydd, Llundain a Moscow.

Daeth yma i Washington i sefydlu ei gwmni ei hun, Celebro Media. Erbyn hyn, mae gan y cwmni stiwdios yn Llundain, Washington DC a Los Angeles, ynghyd â stiwdios pop-up mewn sawl gwlad arall.

Dydi hi ddim yn anarferol clywed ieithoedd gwahanol yn swyddfeydd Celebro. Mae’r cwmni’n darparu gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein byw i ddarlledwyr ledled y byd.

Mae Wesley Dodd yn hoffi disgrifio’r cwmni fel ‘uber’ ar gyfer gwasanaethau teledu, lle gall cleient ofyn am beth bynnag maen nhw ei eisiau, gyda’r dymuniad yn cael ei wireddu. “Mae’r pedair blynedd diwethaf i gyd wedi bod yn adeiladu tuag at etholiad yr Unol Daleithiau,” meddai’r Cymro yn ddiweddar.

Stiwdio Celebro

Mae’r stiwdio yn edrych dros y Tŷ Gwyn a dyma’r safle mwyaf poblogaidd i ddarlledwyr yn Washington DC.

“Mae 60 o wahanol ddarlledwyr yma ar hyn o bryd,” eglura Wesley Dodd.

Roedd sianeli teledu yn defnyddio to’r adeilad i wneud sioeau byw a darllediadau arbennig yn ystod wythnos yr etholiad, ac unrhyw adeg arall pan fydd gwleidyddiaeth America yn y penawdau. A dydi hi ddim yn dasg hawdd. Roedd y cwmni wedi adeiladu teras newydd yn benodol ar gyfer yr etholiad, i alluogi deg o ohebwyr i gyflwyno’r newyddion diweddaraf yn fyw. “Mae gynnon ni brif sianeli’r byd yma ar hyn o bryd,” meddai Wesley Dodd yn ystod yr etholiad.

“Y BBC, Al Jazeera, Sky News, a fy hoff gleient, Newyddion ar S4C.”

Cymro balch hoyw

Mae Wesley Dodd yn teimlo’n falch ei fod wedi dangos bod modd i foi o Gaergybi lwyddo dramor. Ond mae hefyd yn teimlo ei bod hi’n bwysig iawn i siarad am Gymru trwy’r amser.

“Dw i bob amser yn dweud wrth gleientiaid rhyngwladol fy mod i’n Gymro. Dw i mor falch o fod yn Gymro, a dw i eisiau rhoi Cymru ar y map rhyngwladol.”

Ac nid y Gymraeg yn unig sy’n rhan o ethos Celebro. Yn ddyn hoyw, mae Wesley Dodd yn dweud iddo benderfynu yn gynnar ei fod am ddechrau ‘cwmni hoyw’. Ond beth mae hynny’n ei olygu?

“Dydi bod yn gwmni hoyw ddim yn golygu bod pawb sy’n gweithio yma yn hoyw,” eglura Wesley Dodd.

“Mae’n golygu ein bod ni’n ceisio cefnogi pobl hoyw yn y diwydiant teledu. Rydan ni’n falch bod gynnon ni lawer o bobl hoyw yn gweithio i ni, ac rydan ni eisiau gwneud yn siŵr bod y cwmni yn dathlu pobl hoyw,” meddai. “Mae pobl hoyw yn dod â llawer o bethau i’r diwydiant teledu. Bu cymaint o ragfarn yn y blynyddoedd diweddar, ym mhob man, felly dw i eisiau gwneud fy rhan i helpu i wella pethau.’

Mae Celebro Media yn bwriadu agor mwy o stiwdios yn America dros y flwyddyn nesaf, a datblygu ochr cynnwys y cwmni. Mae Celebro eisoes wedi cynhyrchu sawl sioe newyddion a materion cyfoes a rhywfaint o gynnwys ar gyfer radio, a’r gobaith yw y bydd mwy o gomisiynau yn ystod y misoedd nesaf, gyda phwyslais hefyd ar ddarparu cynnwys yn yr iaith Gymraeg pryd bynnag mae’n bosib.

“Mae’r holl gwmnïau cynhyrchu Cymraeg wedi’u lleoli yng Nghymru,” meddai Wesley Dodd, “felly beth am gael cwmni Cymraeg wedi’i leoli yn yr Unol Daleithiau, gan roi golwg ryngwladol o’r byd i gynulleidfa Gymraeg?”

Strancio Trump yn “fusnes da i mi”

Y prosiect mawr nesaf fydd darlledu’r seremoni swyddogol pan ddaw Joe Biden yn Arlywydd America.

Ac mae’r ffaith fod Donald Trump wedi strancio cymaint a gwrthod derbyn canlyniad yr etholiad wedi bod yn “fusnes da i mi” medd Wesley Dodd gan wenu.

“Mae’n golygu mwy o straeon newyddion yn Washington DC!”

Mi fuodd hi’n flwyddyn brysur i’r cyfryngau yn Washington eleni, gyda heriau mawr adeg yr etholiad. Roedd yn rhaid i’r diwydiant teledu addasu i gyfyngiadau oherwydd Covid-19.

“Rydan ni wedi ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau,” meddai Wesley Dodd.

“Weithiau, y canlyniad terfynol ydi bod pethau’n edrych ychydig yn wahanol. Ond yn y diwydiant teledu, mae’n rhaid i chi fod yn barod am unrhyw beth. Dyna pam dw i wrth fy modd.”