Mae llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau wedi cyfeirio at Joe Biden fel “enillydd ymddangosiadol” yr etholiad arlywyddol, wrth i’r gwaith o drosglwyddo grym i’r arlywydd newydd ddechrau.

Ond mae Donald Trump yn gwrthod cydnabod y canlyniad o hyd, dair wythnos wedi’r etholiad, er ei fod e wedi colli un ddadl ar ôl y llall wrth droi at y llys i wrthwynebu’r canlyniad a honni twyll etholiadol.

Mae Joe Biden bellach wedi cael sêl bendith i ddechrau trafod ag asiantaethau ffederal, ddeufis cyn ei dderbyn i swydd yr arlywydd yn swyddogol ar Ionawr 20.

Ac mae Donald Trump wedi trydar yn dweud ei fod e wedi gofyn i’w dîm gydymffurfio â’r broses.

Daw hyn ar ôl i awdurdodau Michigan gadarnhau buddugoliaeth Joe Biden yn y dalaith ymylol, wrth i farnwr wrthod dadleuon Donald Trump yn Pennsylvania na ddylid cadarnhau canlyniad y dalaith honno.

Gweriniaethwyr blaenllaw

Mae’n debyg bellach fod nifer o Weriniaethwyr blaenllaw yn dechrau cydnabod nad oes ganddyn nhw obaith o fuddugoliaeth.

Ond maen nhw’n dweud wrth Donald Trump nad oes angen iddo fel ildio’n swyddogol, er na all barhau i wrthod cydweithio â’r weinyddiaeth newydd.

Yn ôl adroddiadau, mae tactegau oedi’r Gweriniaethwyr eisoes wedi atal Joe Biden rhag cael gwybodaeth allweddol am ddiogelwch cenedlaethol a chynllunio i frwydro yn erbyn y coronafeirws.